Golygfa’n dangos Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chwch camlas yn ei chroesi, NPRN: 34410 DI2010_1390. |
Gan fanteisio ar dechnolegau newydd megis haearn bwrw, roedd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn adeiladwaith enfawr hynod o arloesol, ac athrylith cynllun Jessop a Telford sydd wedi sicrhau ei pharhad a’i lle mewn hanes. Mae deunaw colofn daprog o gerrig yn cario cafn cul o blatiau haearn am bellter o 307m. Dim ond 25mm sydd rhwng y dŵr y tu mewn a’r aer y tu allan i’r platiau metel. Mae pellter o 38.4m o lefel y dŵr yn y gamlas hyd at yr afon islaw. Am 200 mlynedd Pontcysyllte oedd y draphont ddŵr dalaf yn y byd ar gyfer cario cychod. Dim ond yn yr unfed ganrif ar hugain, yng Ngwlad Belg a China, y codwyd rhai uwch ar gyfer lifftiau cychod.
Llun o’r awyr yn dangos rhychwantau canolog syfrdanol Traphont Ddŵr Pontcysyllte, NPRN: 34410 AP_2006_0914. |
Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw 31 Ionawr 2016:
http://www.countryfile.com/awards2015-16
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.