Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday, 6 January 2016

Mae ’Na Amser o Hyd! Gwahoddiad pellach yn dilyn ein diwrnod Archifau sy’n Ysbrydoli a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015





Diolch i bob un ohonoch a ddaeth i’n diwrnod Archifau sy’n Ysbrydoli yn ôl ym mis Tachwedd. Mae’r dyddiad cau ar gyfer anfon cyflwyniadau yn prysur agosáu.

Ewch i Coflein, www.coflein.gov.uk, ac i’n gwefan, www.rcahmw.gov.uk, i chwilio am ddeunydd i’ch ysbrydoli.

Crëwch rywbeth eich hun: cerdd; teisen; model; stori fer; darn o frodwaith; paentiad; cerflun; cerfiad neu collage fel yr un a wnaethom gyda’n gilydd yn ystod ein diwrnod agored.
http://www.peoplescollection.wales/items/486161

http://www.peoplescollection.wales/items/486159

Ewch i Gasgliad y Werin Cymru, http://www.peoplescollection.wales/collections/475660, i weld y cyflwyniadau rydym ni wedi’u derbyn eisoes ac enghreifftiau o waith sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ein harchifau.

Ar ôl i chi gwblhau eich darn, tynnwch ffotograff ohono ac e-bostiwch ef i chc.cymru@cbhc.gov.uk. Cofiwch lenwi ffurflen gyflwyno hefyd a’i hanfon gyda’ch ffotograff. Gallwch gael ffurflen yn www.rcahmw.gov.uk/HI/ENG/Our+Services/Outreach+/Inspirational+Archives/.

Bydd eich gwaith yn cael ei roi mewn oriel ar wefan Casgliad y Werin a bydd detholiad o’r cyflwyniadau yn cael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Planet a’u harddangos yn Amgueddfa Ceredigion.

Rhaid i bob cyflwyniad gyrraedd erbyn 17 Ionawr 2016.

Gadewch i Archifau’r Comisiwn Brenhinol eich Ysbrydoli


Darn rhagarweiniol ar gyfer tecstil yn portreadu Castell Coch, gan The Mad Mountain Stitchers

Collages yn cael eu creu


Celf Llyfr



Crëwch rywbeth eich hun


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin