Golwg cyffredinol o Gaerdydd yn dangos y dociau |
Fel rhan o’i Raglen o Weithgareddau, mae Prydain Oddi Fry yn defnyddio lluniau Aerofilms o Fae Caerdydd a’r cyffiniau yn fan cychwyn ar gyfer prosiect yn ardal Butetown sy’n pontio’r cenedlaethau. Mae’r prosiect yn cynnwys preswylwyr Red Sea House (menter Cymdeithas Tai Taf i ddarparu cartref ar gyfer morwyr Somalïaidd sydd wedi ymddeol) a’r grŵp Cymdeithas Ieuenctid Somalïaidd (SoYA).
Nod y prosiect yn y pen draw yw cynhyrchu ffilm fer sy’n dangos bywyd pob dydd yn yr ardal o safbwynt y gwahanol genedlaethau. Bydd y ffilm yn cynnwys atgofion yr hynafgwyr o fyw a gweithio yn Butetown, a phrofiadau mwy diweddar y plant o’r newid yn eu cymdogaethau.
Golwg o Gaerdydd yn dangos y dociau a Butetown |
Yn hytrach na dim ond holi’r plant, maen nhw’n cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses o wneud y ffilm. Mae’r cwmni ffilm Big Mouse Productions yn darparu arbenigedd, gan arwain sesiynau sy’n canolbwyntio ar hanfodion recordio proffesiynol. Mae’r cwmni hefyd yn dysgu’r plant sut i fod yn holwyr medrus a gofyn cwestiynau a fydd yn ysgogi atebion diddorol.
Mae plant SoYA wedi cael llawer o hwyl yn ymarfer eu sgiliau newydd ar ei gilydd. Bu rhai’n darganfod beth mae eu ffrindiau eisiau bod ar ôl tyfu i fyny (meddygon, gan amlaf), tra bu eraill yn siarad am y gwledydd lle maen nhw wedi byw (gan gynnwys UDA a’r Iseldiroedd). Nododd un plentyn fod cymaint yn fwy o balmentydd yng Nghymru nag yn UDA! Mae’r sesiynau hyn yn helpu’r plant i feithrin amrywiaeth o sgiliau y gallan nhw eu defnyddio yn y dyfodol wrth ymgymryd â phrosiectau eraill.
Golwg cyffredinol o ddociau Caerdydd |
Pan oedd y ddinas yn ei hanterth fel grym diwydiannol, Bae Caerdydd oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru, a byddai llu o longau, morwyr a gweithwyr doc yn llifo drwyddo. Mae treftadaeth ddiwydiannol Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn rhan allweddol o hanes y wlad, ac mae gwaith yn cael ei wneud gan gyrff treftadaeth i wneud cofnod manwl o fywydau’r bobl a oedd ynghlwm wrth weithgareddau pob dydd y bae.
Golwg o ddoc Bute East, Caerdydd a’r ardal o’i gwmpas |
Sut bynnag, nid yw cymaint o waith wedi’i wneud ar brofiadau’r morwyr o wledydd tramor, ac ar fywydau’r rheiny a ymgartrefodd yng Nghaerdydd, a dyma’r bwlch mae prosiect Butetown Prydain Oddi Fry yn ceisio ei lenwi. Adnodd unigryw ac amhrisiadwy yw casgliad Aerofilms y gellir ei ddefnyddio i ysgogi atgofion am y gorffennol. Drwy annog y genhedlaeth iau i ddarganfod hanes y lle maen nhw’n byw ynddo a chofnodi profiadau pobl hŷn eu cymuned, a thrwy ofyn iddynt rannu eu profiadau eu hunain o newid, gobeithir y bydd y prosiect yn olrhain microhanes o fywyd ym Mae Caerdydd, fel y’i gwelir drwy lygaid trigolion Butetown.
Golwg o ddociau Caerdydd |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales