Yn ystod misoedd y gaeaf, bu’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda Cadw a Chasgliad y Werin Cymru i ddatblygu adnodd addysgol yn ymdrin â llongddrylliad y Royal Charter oddi ar arfordir Môn. Atseiniodd trychineb noson y 25-26ain o Hydref 1859 ar draws Prydain, ac yna ar draws y byd wrth i’r newyddion gyrraedd Melbourne, Awstralia, o le’r oedd y llong yn dychwelyd gyda rhyw 450 o deithwyr a chriw ar ei bwrdd.
‘Hyd yn oed heddiw, does neb yn sicr faint o bobl oedd ar y llong, ond dim ond 17 o bobl a oroesodd yn ôl papurau newydd y dydd,’ meddai Deanna Groom, Swyddog Arforol y Comisiwn Brenhinol. ‘Rydyn ni wedi bod yn chwilio am ddeunydd archifol gwreiddiol yn ymwneud â’r llongddrylliad ac yn ei roi ar ffurf ddigidol i athrawon a myfyrwyr ei ddefnyddio ar gyfer gwaith prosiect. Rydyn ni wedi gwneud y ddau ddarganfyddiad mwyaf diddorol hyd yma yn Archifdy Caer ac yn Amgueddfa Arforol Glannau Mersi. Daeth cydweithwyr caredig yn Archifdy Caer o hyd i gasgliad o bapurau’n ymwneud ag adeiladydd y llong, George Cram. Mae’r rhain yn cynnwys rhestr gyflawn o’r holl offer a pheiriannau oedd yn cael eu defnyddio yng Ngwaith Haearn Sandycroft ar Foryd Afon Dyfrdwy pan oedd y gwaith ar y llong yn dechrau. Daeth staff Amgueddfa Arforol Glannau Mersi o hyd i lyfr cargo o eiddo Gibbs Bright & Co sy’n cofnodi bod hyrddod Cotswold yn cael eu hanfon i Awstralia i wella’r stoc fridio. Ar un o’r tudalennau, o dan gofnod ar gyfer y Royal Charter, mae cofnod ar gyfer agerlong Brunel, y Great Britain, sydd wedi cael ei diogelu ym Mryste. Roedd y Great Britain hefyd yn rhan o lynges y Liverpool and Australia Navigation Company.’
Bu Steve Donnachie, myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe sydd ar leoliad yn y Comisiwn Brenhinol, yn chwilio am ddeunydd a’i lwytho i wefan Casgliad y Werin Cymru.
‘Roedd yn un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes llongau teithwyr Prydain, a gafaelodd y colledion enbyd yn nychymyg y wasg Brydeinig. Mae wedi bod yn brofiad anghyffredin i mi – rydw i wedi gorfod mynd i’r afael â meysydd hanes hollol newydd. Fy maes astudio arferol yw Môr y Canoldir yn yr Oesoedd Canol, ac mae pynciau fel llongau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladu llongau ar Afon Dyfrdwy, a mudo i Awstralia yn wahanol iawn i hyn. Mae cael cyfle i ddianc rhag y cyfarwydd ac ymchwilio i rywbeth newydd, yn ogystal â defnyddio’r sgiliau a ddysges yn y brifysgol i gynhyrchu rhywbeth llwyr ymarferol, wedi bod yn hynod o fuddiol.’
Mae’r adnoddau wedi cael eu cyflwyno eisoes i dair ysgol ar Ynys Môn gan Erin Robinson, Rheolwr Dysgu Gydol Oes Cadw yng Ngogledd Cymru. Mae’r plant wedi mynd i fynwent Llanallgo i gofnodi’r cerrig beddau. Maent hwy hefyd wedi cynhyrchu gweithiau celf wedi’u seilio ar y ffenomen dywydd – a dyma’r agwedd ar y stori sydd wedi ennyn chwilfrydedd Helen Rowe, o dîm Casgliad y Werin Cymru:
‘Mae gwyddonwyr yn parhau i ddadlau am effaith gweithgaredd yr haul ar ein tywydd, ond ychydig cyn y dymestl a suddodd y Royal Charter roedd seryddwyr wedi sôn am storm solar fawr. Yr un pryd â’r corwynt a darodd Brydain, roedd stormydd yn achosi difrod mawr ar hyd arfordir dwyreiniol America. Roedd ffenomenau rhyfedd eraill hefyd, er enghraifft, yn ei chrynodeb o’r tywydd ar gyfer mis Hydref 1859, a adroddwyd yn y Caernarvon and Denbigh Herald, mae Arsyllfa Dywydd Llandudno yn nodi i’r aura borealis gael ei weld. Rhaid bod hyn yn eithaf anarferol ar gyfer ein lledred ni? Fe fyddwn ni’n dal i edrych ar y rhan yma o’r stori yn ystod y misoedd i ddod wrth i Brosiect Llongddrylliadau Storm Fawr y Royal Charter ehangu i gynnwys rhagor o’r llongau a gollwyd ar hyd arfordir Cymru yn ystod y corwynt. Bydd cynllun Llyfrgell Genedlaethol Cymru i roi mwy o bapurau newydd Cymreig ar-lein (gwasanaeth a lansiwyd ar 13 Mawrth) o gymorth mawr yn y cyswllt yma.’
Gall casgliad ‘Storm Fawr 1859’ Casgliad y Werin Cymru gael ei gyrchu drwy’r cyswllt hwn (parheir i olygu ac ychwanegu at y casgliad):
http://www.casgliadywerincymru.co.uk/Collection/1515-the-great-storm-of-1859
Hoffem ddiolch yn arbennig i’n cydweithwyr yn Cadw (yn enwedig Caroline Pudney a Polly Groom); y rhwydwaith o archifdai sirol – Môn, Ceredigion, Caer, Gwynedd a Sir Benfro; y tîm Archifau yn Amgueddfa Arforol Glannau Mersi, Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl; y Swyddfa Dywydd; a Chymdeithas Hanes Dwyrain Melbourne yn Awstralia.
Un o sawl carreg fedd sy’n gysylltiedig â Llongddrylliad y Royal Charter yn Eglwys Llanallgo – dyma deyrnged a osodwyd gan ddisgynyddion y rhai a gollwyd. |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.