Golwg o’r awyr o un o’r tri Phentref Diolchgar yng Nghymru, Llanfihangel-y-Creuddyn, AP_2004_0642 NPRN:33047 |
Yr haf hwn bydd Medwyn Parry, aelod o staff y Comisiwn Brenhinol, a Dougie Bancroft, ei gyd-reidiwr, yn mynd ar daith foto-beic i ymweld â’r 51 o “Bentrefi Diolchgar” yn y Deyrnas Unedig. Pentrefi yw’r rhain lle nad oes unrhyw gofeb ryfel, gan fod pawb a aeth i ymladd yn y Rhyfel Mawr yn ddigon ffodus i ddod adref yn fyw.
Bydd y daith yn dechrau yn Llanfihangel-y-Creuddyn, ger Aberystwyth, ar 27 Gorffennaf 2013 a bydd yn gorffen yn yr un man naw diwrnod yn ddiweddarach, ar 4 Awst, ar ôl taith o 2,500 o filltiroedd.
Mae tri Phentref Diolchgar yng Nghymru – Llanfihangel-y-Creuddyn yn Sir Aberteifi; Tregolwyn ym Morgannwg; a Herbrandston yn Sir Benfro – lle dychwelodd pawb o’r Ail Ryfel Byd hefyd. Herbrandston yw’r unig bentref “Dwbl Ddiolchgar” yng Nghymru.
Mae Medwyn wedi cael ei synnu gan haelioni mawr dieithriaid llwyr sydd wedi cofleidio’r prosiect â breichiau agored. Y nod yw codi £51,000 i’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Hyd y gŵyr, does neb wedi ymweld â’r holl bentrefi yn ystod un daith.
Mae’r rheiny sy’n byw yn y Pentrefi Diolchgar yn falch iawn o’u statws ac mae Medwyn a Dougie yn bwriadu cyfarfod â’r trigolion – yn enwedig disgynyddion y rheiny a ddychwelodd o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyhoeddwyd datganiad gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, yn cefnogi’r daith.
Gellir dod o hyd i fanylion pellach ar y wefan: thankfulvillagesrun.com
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.