ar wefan Casgliad y Werin Cymru
Ni fu creu dyfodol digidol ar gyfer arddangosfeydd dros dro erioed yn haws! Fel y dangosir gan grŵp o Guraduron Ifanc o Amgueddfa Ceredigion.
Mae Curaduron Ifanc Amgueddfa Ceredigion rhwng pedair ar ddeg a dwy ar bymtheg oed ac yn eu plith mae disgyblion o ysgolion uwchradd lleol sy’n dilyn y Fagloriaeth Gymreig. Bu’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd yn yr Hydref 2012 i greu arddangosfa hwyliog ac arloesol yn oriel yr amgueddfa yn Aberystwyth. Cafodd yr arddangosfa dros dro ei galw’n ‘Clocwedd’ ac roedd yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar hanes Ceredigion drwy lygaid y Curaduron Ifanc. Edrychodd yr arddangosfa ar agweddau ar fywyd trefol dros y degawdau, o ddechrau’r 19eg ganrif hyd heddiw, ac atebodd gwestiynau fel: Pam yr oedd pobl yn dod i'r dref? Beth oeddynt yn ei wisgo? A beth oeddynt yn ei weld a'i glywed yn y dref?
Tra oedd yr arddangosfa yn oriel yr amgueddfa, roedd yr ymwelwyr yn gallu mwynhau detholiad amrywiol o ddelweddau a gwrthrychau, rhai o gasgliad yr amgueddfa a rhai wedi’u creu gan y Curaduron eu hunain. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys montage o ffilm o’r 1970au, ffenestr siop fferyllydd o’r 1920au a ffrog ddydd brydferth o wlân o ganol y 19eg ganrif. Ond fel y pwysleisiwyd yn yr arddangosfa ‘Clocwedd’, ‘nid erys amser i neb’ ac mae newid yn anochel, felly ar 19 Ionawr 2013 bu’n rhaid i’r Curaduron Ifanc dynnu eu harddangosfa i lawr a dechrau ymchwilio i agwedd arall ar gasgliad yr amgueddfa.
Gyda chymorth Anna Evans, swyddog addysg Casgliad y Werin, sy’n gweithio yn swyddfeydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mae gan yr arddangosfa ‘Clocwedd’ ddyfodol digidol bellach. Mae’r Curaduron Ifanc o Amgueddfa Ceredigion yn awr yn trefnu casgliad ar wefan Casgliad y Werin Cymru, gan greu gwaddol digidol ar gyfer eu harddangosfa.
Gallwch weld yr eitem gyntaf a lwythwyd i fyny yn http://www.casgliadywerincymru.co.uk/Item/59783-young-curators-clockwise-exhibition-2012
Cadwch eich llygaid ar agor am gofnodion blog pellach wrth i’r casgliad cyfan gael ei lwytho i fyny i’r wefan.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.