Yn ogystal â’r Sgwrs Oriel “Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru” a digwyddiad Casgliad y Werin Cymru a gynhelir yn Amgueddfa Bangor ar 2 Mawrth, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu i ddau ddigwyddiad arall, yng Nghaerfyrddin, ar yr un diwrnod, i gefnogi cyrff treftadaeth eraill. Yn y digwyddiad cyntaf, hanesydd milwrol y Comisiwn, Medwyn Parry, fydd y siaradwr gwadd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed yn Neuadd Sant Pedr, Caerfyrddin, rhwng 10am a 3pm. Teitl ei sgwrs fydd Olion Milwrol o’r Ugeinfed Ganrif yng Nghymru gyda phwyslais ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n siŵr o fod yn achlysur difyr iawn. I gael gwybod mwy, cysylltwch â: Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed.
Yr ail ddigwyddiad ar y diwrnod fydd Diwrnod Archaeoleg Sir Gâr, wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Bydd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ac awdur y cyhoeddiad uchel ei glod, Y Bwthyn Cymreig: The Welsh Cottage, yn rhoi sgwrs awdurdodol ar “Y Bwthyn Cymreig”. Siaradwyr eraill yn y digwyddiad fydd Dr Rod Bale a Cliff Bateman. Cynhelir y digwyddiad rhwng 9.30am a 4.30pm yng Nghanolfan Halliwell, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. I gael gwybod mwy, cysylltwch ag Ed Davies: e.davies@dyfedarchaeology.org.uk; ffôn: 01558 825993.
Bydd staff y Comisiwn Brenhinol wrth law drwy’r dydd i ateb cwestiynau a sgwrsio ag ymwelwyr yn ystod y ddau ddigwyddiad. Mae croeso cynnes i chi ddod i’n stondin lle bydd ein holl gyhoeddiadau ar werth, gan gynnwys ein tri theitl diweddaraf: Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes a Worktown: The Drawings of Falcon Hildred. Bydd disgownt arbennig o 10% ar bob llyfr. Mae’n argoeli bod yn ddiwrnod gwych i bawb, felly dewch i ymuno â ni – ble bynnag y byddwn!
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales