 |
| Cloddwyr o Glwb yr Archaeolegwyr Ifanc ym mryngaer Pen Dinas, Aberystwyth yn 2013 (tynnwyd y llun gan Paul Harries). |
Yn ddiweddar fe gamodd Archaeolegwyr Ifanc Aberystwyth yn ôl mewn amser, bron 80 o flynyddoedd, i ail-greu golygfa hanesyddol o gloddwyr yn gweithio ar fryngaer
Pen Dinas uwchben y dref, yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd. Dyma’r tro cyntaf i bobl sefyll yn esgidiau archaeolegwyr y 1930au, gan wisgo dillad y cyfnod a dal offer addas, i ail-greu’r ffotograff o’r cloddio ar safle’r fryngaer a dynnwyd yn wreiddiol ar ddiwrnod o haf ym 1934.
Fel rhan o daith gerdded wedi’i harwain gan Dr Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth, a drefnwyd gan John Ibbotson a Paul Harries ar ran y gangen leol o’r Archaeolegwyr Ifanc, penderfynwyd bod yn rhaid sefyll yn esgidiau’r archaeolegwyr arloesol. Gan ddilyn cyngor Anna Evans o Amgueddfa Ceredigion, cafwyd offer a dillad o gasgliad trin a thrafod gwrthrychau yr amgueddfa er mwyn creu darlun dilys a rhoi blas i’r Archaeolegwyr Ifanc ar fywyd gweithwyr lleol yn y 1930au. Roedd gwisgo crysau, trowsus dal dŵr a chapiau brethyn yn y tywydd poeth, a chario rhawiau coes hir, yn dipyn o her. Cwblhawyd y darlun gan Sam Williams, un o’r Archaeolegwyr Ifanc, a gymerodd le’r Athro Forde a oedd yn gwisgo gwasgod a thei a sbectol gron ac yn gafael mewn het Banamâ.
Mae’r ffotograff gwreiddiol i’w gael yn archif cloddiad Pen Dinas a ddelir gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac mae’n dangos yr Athro Forde yn ymweld â’r cloddwyr wrth iddynt gloddio yn un o brif byrth y fryngaer o Oes yr Haearn. Doedd hi ddim yn rhy anodd darganfod ble buont yn sefyll, ond roedd yr olygfa yn y cefndir o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Llanbadarn Fawr wedi newid cryn dipyn ar ôl wyth degawd.
 |
| Cloddwyr ym mryngaer Pen Dinas, Aberystwyth ym 1934, NPRN:92236 (Hawlfraint y Goron CBHC) |
Ychwanegodd Toby Driver: ‘Roedd ail-greu’r olygfa yma o’r 1930au, gan ddefnyddio dillad ac offer dilys, yn her go iawn i bawb a gymerodd ran, ond diolch i gymorth Amgueddfa Ceredigion, ac amynedd y plant, fe gawson ni i gyd ein syfrdanu gan y canlyniad. Roedd yn union fel camu’n ôl mewn amser!’
Dylai unrhyw un sy’n dymuno ymuno â’r Archaeolegwyr Ifanc gysylltu â John Ibbotson drwy
Amgueddfa Ceredigion. Gallwch chwilio am y ffotograffau gwreiddiol o’r cloddiad ym Mhen Dinas, Aberystwyth yng nghronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol
www.coflein.gov.uk.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn

a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:

Twitter Hashtag: #RCAHMWales