Murlun yn portreadu Gwawdio Crist yn Eglwys Llandeilo Tal-y-bont. NPRN: 94698 |
Caiff pobl eu synnu’n aml wrth ddarganfod bod ein hynafiaid yn byw ac yn addoli mewn adeiladau a oedd yn llawn lliw a dyluniadau cywrain. Mae archif y Comisiwn Brenhinol yn gartref i gasgliad hynod ddiddorol o furluniau domestig a chrefyddol o bob cyfnod. Mae’r delweddau hyn yn cynnwys paentiadau canoloesol sy’n dynwared tapestrïau, portreadau rhyfeddol, a’r murluniau canoloesol unigryw a ddarganfuwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn y 1980au yn Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, Morgannwg ac sydd wedi’u hadfer i’w llawn ogoniant yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd.
Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, a gawsai ei gadael yn wag, cyn ei symud i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a’i hadfer. NPRN: 94698 |
Ail-gread y Comisiwn Brenhinol o furlun o angel yn Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont. NPRN:94698 |
Bydd Richard Suggett yn trafod yr archif nodedig hwn yn narlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol am 5.30pm ar Ddydd Mercher, 2 Rhagfyr. I gael manylion pellach, cysylltwch â Nicola Roberts, nicola.roberts@rcahmw.gov.uk, Ffôn: 01970 621248.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.