Dechreuodd fy obsesiwn gyda gwau cyn gynted ag y dysgais sut i’w wneud yn iawn. Un Nos Galan, saith neu wyth mlynedd yn ôl, fe lwyddais o’r diwedd, ar ôl i rywun ddangos i mi sut i godi pwythau mewn ffordd roeddwn i’n ei deall.
Un sgarff hir iawn yn ddiweddarach, roeddwn i’n barod am sialensiau newydd. Daeth fy mhrosiectau’n fwyfwy uchelgeisiol, y nodwyddau’n deneuach a’r edafedd yn feinach.
Gwau ceinciog (neu wau Fair Isle) yw un o’m ffefrynnau. Rydw i wedi mwynhau gwneud hetiau, cyflau, menig a phethau eraill gan ddefnyddio’r dechneg hon. Pan welais yr hen lun o draphont ddŵr Pontcysyllte, roeddwn i’n meddwl y byddai’r llinellau gosgeiddig a’r gyfres o fwâu yn gwneud patrwm gwych ar gyfer cwfl (mae cwfl ar siâp tiwb ac mae’n cael ei wisgo yn lle sgarff; weithiau mae’n cael ei alw’n snŵd).
Ar ôl symleiddio’r ddelwedd fe ddefnyddiais bapur graff i’w throi’n siart ar gyfer gwau. Os yw’n ymddangos braidd yn hir o’r gwaelod i’r top, y rheswm am hyn yw bod lled y pwyth gwau yn fwy na’i uchder, a rhaid caniatáu ar gyfer hyn neu fe fydd y dyluniad terfynol yn edrych yn wasgedig.
Ydych chi’n barod? Mae’n amser rhoi’r manylion technegol.
CYFARWYDDIADAU
Bydd y patrwm yn cael ei wau mewn edafedd 4-cainc (neu bwysau edafedd main (fingering)), ar nodwyddau tenau, 3mm neu lai. Dim ond pwyth plaen sy’n cael ei ddefnyddio, a dim ond dau liw ar y tro, heblaw am y top lle mae’n rhaid i’r ddwy res gyntaf o fanylion y bont (mewn du) gael eu brodio (pwyth dyblyg) ar y darn gorffenedig. Yr ailadroddiad patrwm yw 14 pwyth, ac mae’n ailadrodd 16 o weithiau ym mhob rownd.
Mae rhai ceinciau rhydd (floats) yn eithaf hir a bydd angen i chi eu dal wrth i chi wau.
Dylech ddysgu am edafedd trechol mewn gwau ceinciog cyn dechrau. Mae esboniad da ar gael yma:
http://paper-tiger.net/blog/13911317/colordominance.
Pwrpas y stribedi fertigol glas/gwyn yw eich helpu i gyfrif y pwythau, dim byd arall. Mae’r ailadroddiad patrwm wedi’i amlinellu mewn coch ar ochr dde’r siart.
Yr unig fyrfoddau sy’n cael eu defnyddio yw; MC – ‘main colour’; CC – ‘contrast colour’.
Sylwer. Nid yw’r patrwm wedi cael ei brofi.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Edafedd glas i gynrychioli’r dŵr (CC1)
- Edafedd gwyrdd/brown ar gyfer y tir (byddai rhywbeth brith gydag ailadroddiad hir, fel Noro Kureyon Sock S236, yn ddelfrydol) (CC2)
- Edafedd glas golau ar gyfer yr awyr (CC3)
- Edafedd llwyd ar gyfer y draphont ddŵr (gwnewch yn siŵr fod y lliw yn sefyll allan yn erbyn y cefndir) (MC)
- Edafedd du ar gyfer manylion y bont (CC4)
Neu gallech ei gwau mewn lliwiau llachar a hollol annaturiol – chi biau’r dewis!
Codi 182 pwyth yn CC1 gan ddefnyddio’r dull cynffon hir. Uno yn y rownd.
Gweithio rib 1x1 am o leiaf 5 rhes, neu am hirach os dymunwch.
Newid i CC2 ac MC hyd at y llinell goch gyntaf. Gweithio’r siart mewn pwyth plaen, gan wneud yn siwr eich bod yn dal y ceinciau rhydd ac yn rhoi sylw i’r edafedd trechol (MC yw’r lliw trechol bob amser).
Newid i CC3 ac MC. Gweithio hyd at yr ail linell goch.
Newid i CC4 ac MC. Newid yr edafedd trechol i CC4 ar gyfer yr adran hon. Gweithio hyd at y llinell goch nesaf.
Newid yn ôl i CC3 ac MC. Ailgychwyn gydag MC yn edafedd trechol a gweithio rib rychiog 1x1 hyd at y rhes olaf.
Gweithio’r rhes olaf mewn CC4 yn unig.
Cau’r pwythau. Brodio (pwyth dyblyg) manylion du coll y bont yn y ddwy res cyn yr ail linell goch. Tacluso’r pennau rhydd.
Llongyfarchiadau! Gallwch yn awr
wisgo’r Safle Treftadaeth Byd.
Gan Ania Skarzynska