Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr a WelCAAP
Panel Ymgynghorol Archaeoleg Wrthdaro Cymru
Panel Ymgynghorol Archaeoleg Wrthdaro Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Siambr y Cyngor)
20 Tachwedd, 2015
Gellir archebu cinio am: £8 wrth drefnu’ch lle neu dewch â’ch cinio eich hun.
Mae Panel Archaeoleg Wrthdaro Cymru (WelCAAP) wrthi’n trefnu seminar undydd mewn partneriaeth â CIfA Cymru / Grŵp Cymru i gyflwyno cysyniadau, themâu a phrosiectau cyfredol yn ymwneud ag archaeoleg wrthdaro yng Nghymru a’r byd ehangach.
Mae WelCAAP yn deillio o Weithgor Safleoedd Milwrol yr 20fed Ganrif Cadw ac mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, y Comisiwn Brenhinol, pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, Historic England, y Sefydliad Isadeiledd Amddiffyn ac asiantaethau a chyrff cenedlaethol eraill. Ei nod yw tynnu sylw at archaeoleg wrthdaro ddiweddar yng Nghymru a’r effeithiau ar gymunedau a thirweddau, yn ogystal â lledaenu’r arfer gorau mewn perthynas ag adnabod, ymchwilio, amddiffyn, diogelu, dehongli a chyflwyno safleoedd gwrthdaro o’r ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif ar draws yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.
Bydd y seminar undydd hwn yn cyflwyno’r cynadleddwyr i themâu ymchwil, prosiectau a materion rheoli cyfredol yn y DU ac y tu hwnt, ac fe fydd papurau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys archaeoleg filwrol, themâu Rhyfel Byd Cyntaf, y Ffrynt Cartref yng Nghymru, archaeoleg awyrennau ac archaeoleg gymunedol. Croesewir cynigion ar gyfer arddangosfeydd.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Toby Driver, toby.driver@cbhc.gov.uk +44 (0) 01970 621207 neu
John Latham jernstlatham@gmail.com +44 (0) 7774 877834.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.