Ardal Llanidloes ym 1887. Map ordnans 25’’, argraffiad cyntaf, dalen sir Drefaldwyn XLVII.4. DI2011_1094 |
Defnydd
Gall ymchwilwyr astudio’r mapiau sy’n cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal, gallant weld mapiau Arolwg Ordnans 25 modfedd a 6 modfedd fel haenau ar System Wybodaeth Ddaearyddol.Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd twf aruthrol mewn gweithgarwch diwydiannol, dyfodiad y camlesi a’r rheilffyrdd, cynlluniau ehangu trefol enfawr, a datblygiadau pwysig eraill a weddnewidiodd rannau o dirwedd wledig Cymru. Mae mapiau’r cyfnod yn tystio i lawer o’r newidiadau hyn.
Ar raddfa lai, gellir yn aml olrhain hanes adeiladau unigol, enwau ffermydd ac aneddiadau, lleoliad hynafiaethau, a thirnodau eraill megis ffynhonnau, cerrig milltir a choed hyd yn oed.
Mae croeso i chi weld y catalog a’r casgliadau wedi’u digido ar Coflein, ein cronfa ddata o safleoedd a’n catalog o archifau, ar-lein yn www.coflein.gov.uk, neu yn ein llyfrgell ac ystafell chwilio.
Ardal Treharris ym 1919. Map ordnans 25’’, ail argraffiad. DI2012_0326 |
Arolwg Ordnans
• Mapiau Arolwg Ordnans 1”, ‘Hen Gyfres’Cynhyrchwyd rhwng 1805 a 1873. Mae cyfrol sy’n cynnwys mapiau ffacsimili o Gymru o’r gyfres hon ar gael yn y llyfrgell.
• Mapiau Arolwg Ordnans 25”, Cyfres y Siroedd
Y rhain yw’r mapiau mwyaf o ran graddfa a gynhyrchwyd yn fasnachol yn y DU. Cawsant eu cyhoeddi mewn camau a chwblhawyd yr argraffiad cyntaf ym 1890. Mae gan CHCC gyfres unigryw o fapiau gwaith yr arolygwyr Arolwg Ordnans a luniodd Gyfres Siroedd Cymru sy’n dangos y mapiau ail argraffiad cyhoeddedig a gwybodaeth mewn glas o’r gyfres flaenorol mewn haen oddi tanynt.
• Mapiau Arolwg Ordnans 6”
Mae’r fersiynau llai hyn o Gyfres y Siroedd yn cynnig gwell drosolwg o’r ardaloedd ar y mapiau. Mae Argraffiad Dros Dro (a gynhyrchwyd cyn cyflwyno Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol) a set gyda gridiau ar gael.
• Mapiau Arolwg Ordnans modern o Gymru yn y cyfresi Landranger a Pathfinder
Ystad Baron Hill, Ynys Môn: map ystad o gatalog gwerthiant. C19734 |
Casgliadau
• Set o fapiau Arolwg Ordnans 1:10,000 sy’n ffurfio mynegai i gardiau’r NAR [Cofnod Archaeolegol Cenedlaethol]. Mae manylion safleoedd a darganfyddiadau, gan gynnwys cyfeiriadau llyfryddol, i’w cael ar y cardiau NAR. Olion archaeolegol sy’n cael y sylw pennaf.• Catalogau gwerthiant ystadau o ddechrau’r ugeinfed ganrif Maent yn cynnwys mapiau (wedi’u seilio ar fapiau 25” Cyfres y Siroedd gan mwyaf) sy’n dangos ffiniau’r darnau o dir sydd ar werth. Caiff yr eitemau hyn eu disgrifio’n fanwl a rhoddir enwau tenantiaid yn aml.
• Mapiau o Fur Antwn, Prydain Fore, Prydain Rufeinig, Caerfaddon Rufeinig a Chanoloesol, Caerfaddon Sioraidd, Caerefrog y Llychlynwyr a’r Oesoedd Canol, Caerefrog Rufeinig ac Angliaidd, a mapiau eraill.
• Adargraffiadau o fapiau cynnar, gan gynnwys map ffordd stribed Ogilby (1675), map Blaeu o Sir Forgannwg (1645), mapiau Bowen o Dde Cymru (1729), cynllun Speed o Gaerdydd (1610) ac eraill.
• Siartiau’r Morlys
Siartiau arforol modern o ddyfroedd arfordirol Cymru.
Map Arolwg Ordnans 6”, ail argraffiad, dalen Sir Forgannwg XXVII NE (1901), Cwm Rhondda. DI2010_1140 |
Gwasanaethau
- Gwasanaeth ymholiadau am ddim i’r cyhoedd
- Gwasanaeth chwilio blaenoriaethol
- Llyfrgell ac ystafell chwilio
- Llyfrgell ddelweddau
- Digido
- Setiau data a mapio digidol
- Ymweliadau gan grwpiau
- Adnoddau addysgol
Ystafell chwilio Henebion Cenedlaethol Cymru. |
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion, SY23 1NJ
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
Blog: www.newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.