![]() |
Cilgant, Maesderwen, Pont-y-pŵl. DI2006_1042 NPRN 400741 |
Hanes Tai
Mae cyfoeth o wybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) am adeiladau domestig a all helpu i ddatgelu ac egluro hanes eich tŷ ddoe a heddiw. Mae ein casgliadau’n cynnwys adroddiadau, arolygon, mapiau, lluniadau, ffotograffau ac awyrluniau yn ymwneud â phob agwedd ar yr amgylchedd adeiledig. Mae gennym lyfrgell arbenigol hefyd sy’n gartref i lawer o gyhoeddiadau sy’n ymdrin â hanes adeiladau ar hyd a lled Cymru.Os yw eich tŷ yn hen gapel, ysgol, tafarn, melin, goleudy neu adeilad masnachol neu ddiwydiannol, mae’n ddigon posibl bod gennym ddeunydd yn ymwneud ag ef yn ein casgliadau.
![]() |
Back Row’, Onllwyn: bythynnod gweithwyr deulawr, bellach wedi’u dymchwel. DI2008_1332 NPRN 407800 |
Casgliadau
- Mae lluniadau, cynlluniau pensaernïol, arolygon safl e ac adluniadau o ansawdd uchel yn adnodd ardderchog ar gyfer manylion pensaernïol.
- Gall delweddau (ffotograffau a chardiau post) gynnig cyfoeth o wybodaeth gefndirol, gyd-destunol a phenodol iawn weithiau am hanes eich tŷ. Mae ein casgliadau’n cynnwys ffotograffau o du mewn a thu allan adeiladau sy’n dangos sut maent hwy wedi newid dros y degawdau.
- Defnyddiwch ein casgliad mawr o fapiau Arolwg Ordnans i ddod o hyd i adeiladau, darganfod ffi niau tir a chaeau a gweld sut y gall y rhain fod wedi newid dros amser.
- Mae’r casgliadau o Gynlluniau Ystad a Manylion Gwerthu yn cynnwys disgrifi adau hynod ddiddorol o adeiladau, a gwybodaeth am ddaliadau tir a defnydd tir cysylltiedig.
- Gallwch ddefnyddio awyrluniau i leoli eich tŷ o fewn ei gyd-destun ehangach. Mae gennym gasgliadau mawr o awyrluniau sy’n amrywio o ran dyddiad o 1918 hyd heddiw. A yw eich tŷ chi yn un o’r lluniau hyn?
![]() |
Uwcholwg a golwg o Acorn Cottage, The Close, Llanfairfechan. DI2010_1096 NPRN 96649 |
Mae disgrifi adau o adeiladau unigol i’w cael yn CHCC hefyd, gan gynnwys:
- Adroddiadau arolwg
- Disgrifi adau hanesyddol
- Toriadau o bapurau newydd
- Nodiadau
- Briffi au gwylio
- Adeiladau Rhestredig Cadw
![]() |
Llun tirwedd o Sawmill Cottage, Anheddiad Camlas Garthmyl, Aberriw. DI2006_1042 NPRN 400741 |
Gwasanaethau
Defnyddiwch COFLEIN, ein cronfa ddata ar-lein, i chwilio am safl eoedd sydd o ddiddordeb i chi, bwrw golwg dros gasgliadau sydd wedi’u catalogio, a gweld delweddau o bob rhan o Gymru – www.coflein.gov.ukDewch i’n llyfrgell ac ystafell chwilio i weld llyfrau, cylchgronau a deunydd archifol gwreiddiol o CHCC. Rydym ar agor: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 09:30 – 16:00, Dydd Mercher 10:30 – 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
![]() |
Llun o breniau to Cefn Caer, Pennal. DI2006_0988 NPRN 28277 |
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion, SY23 1NJ
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
Blog: www.newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:






Twitter Hashtag: #RCAHMWales