Aelod o’r Sgwadron Gwlanog yn ymweld â Chastell Conwy, NPRN: 121 |
Mae gwefan Prydain oddi Fry yn gartref i gasgliad unigryw o ryw 70,000 o awyrluniau a dynnwyd ar hyd a lled gwledydd Prydain rhwng 1919 a 1953 gan gwmni Aerofilms Ltd. Mae’n rhoi cyfle i bawb ymchwilio a rhannu eu gwybodaeth a’u hatgofion am y lleoedd sydd i’w gweld yn y ffotograffau.
Mae rhai o’r lluniau ar y wefan yn fwy na 90 mlwydd oed a dangosant sut mae tirweddau a threfi wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd. Mae’r prosiect Gwau dros Brydain oddi Fry yn rhoi cyfle i chi arddangos eich sgiliau crefft a hefyd i ddarganfod mwy am eich ardal leol a sut y newidiodd yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Ffotograff Aerofilms o 1923. Gellir dod o hyd i’r ddelwedd ar wefan Prydain oddi Fry |
Mae’n hawdd cymryd rhan.
Cam 1. Ewch ati i wau eich awyren. Defnyddiwch ein patrwm ni neu eich patrwm eich hun. Rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg ...
Cam 2. Ewch i http://www.britainfromabove.org.uk/cy i ddod o hyd i luniau o’ch ardal chi a dewiswch hoff leoliad. Manteisiwch ar ddiwrnod heulog ac ewch yno gyda’ch awyren i dynnu ffotograff. Os dymunwch, gadewch eich campwaith i bobl eraill ei fwynhau.
Cam 3. Llwythwch eich llun i fyny i’n grŵp Gwau dros Brydain Oddi Fry yn http://www.britainfromabove.org.uk/cy/groups/knit-britain-above i ymuno â rhengoedd eich cyd ‘edafeddhedwyr’.
Cewch hyd yn oed ddod i’r digwyddiad gwau byw di-dâl yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, Sir Gâr ar Ddydd Sadwrn 14 Mehefin, 11am-3pm!
Cafodd awyrennau gwau y llynedd eu gweld mewn lleoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys Bangor, Caernarfon a Chasnewydd - gallwch weld beth wnaeth y gweuwyr yma: http://www.britainfromabove.org.uk/cy/groups/knit-britain-above
Ble bydd y sgwadron gwlanog yn hedfan eleni?
Enghraifft o un o’r Sgwadron Gwlanog a gafodd ei gwau y llynedd. |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.