Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday, 29 April 2014

Archaeoleg yr Uwchdiroedd a Thirweddau Milwrol yng Nghymru





Ysgol undydd a drefnwyd gan y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â’r Sefydliad Isadeiledd Amddiffyn ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys.
9 Mai 2014. Ardal Hyfforddi Pontsenni,
Aberhonddu, Powys

Fe fydd cyfle, yn ystod cinio, i’r cynadleddwyr weld y lluniau a baentiwyd gan garcharorion rhyfel o’r Eidal a’r Almaen ar wal y Gegin yng Ngwersyll Pontsenni ym 1945-6.  Mae’r olygfa hon yn dangos Castell Heidelberg yn ne’r Almaen (DS2011_331_003).
Bydd Fforwm Archaeoleg yr Uwchdiroedd eleni’n cael ei gynnal ar Ddydd Gwener 9 Mai 2014 yng Nghanolfan y Barcud Coch, Ardal Hyfforddi Pontsenni (SENTA) ym Mhowys. Digwyddiadagored fydd hwn, wedi’i gynnal mewn partneriaeth â’r Sefydliad Isadeiledd Amddiffyn ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Yn y bore cyflwynir adroddiadau’n deillio o arolygon uwchdirol ar hyd a lled Cymru a neilltuir y prynhawn i bapurau’n ymwneud ag archaeoleg tirweddau milwrol yn uwchdiroedd Cymru. Y tâl cofrestru yw £20, sy’n cynnwys cinio eistedd i lawr, lluniaeth a mynediad.

Bydd hwn yn gyfle prin i fynychu digwyddiad yn yr ardal hyfforddi a chlywed mwy am archaeoleg Mynydd Epynt a thirweddau archaeolegol eraill yng Nghymru, ac i ymweld â safleoedd ar y maes yng nghwmni archaeolegwyr a phersonél milwrol. Fe fydd nifer cyfyngedig o leoedd, felly bwciwch yn gynnar.

Rhoddir manylion pellach am y digwyddiad a’r trefniadau bwcio ar wefan y Comisiwn Brenhinol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Leighton yn david.leighton@cbhc.gov.uk neu drwy ffonio 01970 621204


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin