Sarahjayne yn sgwrsio ag aelodau’r gymuned am y lluniau yn ein harchif. |
Codwyd y llenni ar fywyd yn y gorffennol yn ystod diwrnod treftadaeth cymunedol y Borth yr wythnos ddiwethaf a drefnwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Roedd y trefnwyr, yr archaeolegwyr cymunedol Kimberly Briscoe a Sarahjayne Clements, yn eithriadol o falch bod y digwyddiad mor boblogaidd a bod cyfoeth o wybodaeth newydd wedi dod i’r golwg.
Meddai Sarahjayne, ‘Fe wnaethon ni ofyn i bobl ddod ag unrhyw ffotograffau, gwybodaeth neu atgofion oedd ganddyn nhw am y Borth. Hefyd fe roddwyd gwahoddiad i’r trigolion edrych ar y ffotograffau, mapiau a chofnodion sydd eisoes yn archif y Comisiwn, ac ysgogodd hyn nifer o atgofion. Fe ddaeth llawer o bobl i’r digwyddiad, ac roedd ganddyn nhw amrywiaeth o eitemau, o fedalau rhyfel i lun o Concorde yn hedfan dros y gofgolofn ryfel. Roedd ’na lawer o luniau teulu a rhai o adeiladau yn y Borth.’
Dywedodd Kimberly, ‘Fe ddaeth llawer o bobl i rannu eu hatgofion am orffennol y Borth. Roedden nhw wrth eu bodd yn dweud wrthyn ni am hanes y pentref, gan gynnwys lleoliadau siopau a banciau, sut beth oedd bywyd ysgol, a sut byddai teulu un wraig yn mynd â’u carpedi i’w sychu yn y neuadd ar ôl tywydd mawr.’
Dywedodd Kimberly a Sarahjayne yr hoffent ddiolch i’r holl drigolion a oedd wedi dod i rannu eu gwybodaeth. Defnyddir y wybodaeth newydd i ddiweddaru’r cofnodion ar Coflein (cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol) a chaiff ei hychwanegu at Gasgliad y Werin Cymru.
Bydd Kimberly a Sarahjayne yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau hyd at fis Awst. Mae teithiau tywys wedi’u cynllunio eisoes ar gyfer mis Gorffennaf i gyd-fynd â Gŵyl Archaeoleg Prydain, a byddant yn dod i Garnifal y Borth ym mis Awst.
Os hoffech ymuno yn y digwyddiadau, neu os oes gennych wybodaeth i’w rhannu, gallwch gysylltu â hwy yn sarahjayne.clements@cbhc.gov.uk neu kimberly.briscoe@cbhc.gov.uk, neu gallwch chwilio am ‘The Coastal Heritage of Borth and Ynyslas’ ar Facebook.
Kimberly explaining about the failed resort plans at Ynyslas. |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Gallwch hoffi Comisiwn Brenhinol ar Facebook a dilyn @RCAHMWales ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.