Y Comisiwn Brenhinol fydd un o’r cyrff a fydd yn elwa ar grant sylweddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i hybu hyfforddiant ac ymchwil ôl-raddedig.
Roeddem yn rhan o gynnig a gyflwynwyd gan yr wyth prifysgol (gan gynnwys Aberystwyth a Chaerdydd, a chyrff eraill sydd â phrofiad helaeth o ymchwil ym meysydd archaeoleg a hanes) sy’n perthyn i Gonsortiwm y De, y Gorllewin a Chymru. Bu’r cynnig yn llwyddiannus, a dyfarnwyd £14.2 filiwn i’r Consortiwm. Bydd hyn yn cynnal oddeutu 200 o ysgoloriaethau ymchwil ôl-radd dros gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd yn darparu cymorth arloesol i raddedigion drwy roi cyfle iddynt feithrin medrau ehangach wrth gael profiad o weithio y tu allan i’r byd academaidd ar leoliadau diwydiannol a rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Rick Rylance, Prif Weithredwr yr AHRC: “Dyma gam cyntaf pwysig a fydd yn galluogi myfyrwyr ôl-raddedig yn y celfyddydau a’r dyniaethau i gael yr hyfforddiant a chymorth gorau posibl, ac a fydd yn arwain at ddatblygu dull o gydweithio sy’n cyfuno arbenigedd ac yn ehangu gorwelion yr ymchwilwyr. Rydyn ni’n hynod falch o’r ffordd mae’r sector, a phartneriaid y tu hwnt i’r sector, wedi ymateb, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i gefnogi’r genhedlaeth nesaf.”
Bydd y Comisiwn yn cyfrannu drwy gynnig profiad gwaith a hyfforddiant i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y meysydd lle y mae gennym arbenigedd. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn ystyried sut y gallwn ddatblygu cyfleoedd pwysig ar gyfer prosiectau ymchwil cydweithredol a sut y gallant gyd-fynd orau â’n gwaith, a’r Cofnod Henebion Cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am y grant hwn, ewch i wefan yr AHRC.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.