- Seremoni agor y Neuadd Goffa, Penparcau ym 1933 - ffotograffau drwy law Gwilym Thomas
- Meysydd chwarae Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth: ffotograffau o gemau criced a rygbi a digwyddiadau athletau o’r 1930au i’r 1950au - drwy law Meirion Morgan, prif dirmon 1947-2002
- Evan Thomas - saer cerbydau, gof a theulu dosbarthu llaeth o Southgate - ffotograffau a deunydd archifol drwy law Gwilym Thomas
- Amrywiaeth o ffotograffau a deunyddiau archifol, gan gynnwys posteri ar gyfer y Theatr Fach a Phafiliwn y Pier Brenhinol - drwy law Charlie Downes
- Arteffactau gan gynnwys hen bistol, pedolau gwartheg ac ocarina - drwy law Beti Gwenfron Evans a Gwenllian Jones
- Disgrifiad o symudiad teulu Cymreig i Lundain yn y 1920au-1930au, gan gynnwys recordiadau hanes Llafar wedi’u hadrodd gan Beti Gwenfron Evans
Gwefan Casgliad y Werin |
Mae’r amrywiaeth anhygoel hon o gyfraniadau gan bobl leol yn helpu i ddod â’n hanes lleol yn fyw. Gobeithir y bydd yr eitemau sydd wedi’u casglu hyd yn hyn yn annog llawer mwy o bobl i adrodd eu hanes drwy lwytho eu heitemau hanesyddol eu hunain i fyny i Gasgliad y Werin Cymru: http://www.casgliadywerincymru.co.uk
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.