Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday, 12 September 2012

Worktown: the Drawings of Falcon Hildred





Hollt yr Oakeley, 1974
Panorama o derasau chwareli llechi’r Oakeley o’u gweld wrth gyrraedd Blaenau Ffestiniog o’r gogledd dros Fwlch y Gerddinen. Ar y chwith mae tai teras Talwaenydd, a thu hwnt iddynt mae chwareli a melin lechi Llechwedd.
© Y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad Falcon Hildred,
FHA 01/08/02, NPRN 404307

Bu tîm o guraduron, gwirfoddolwyr ac archifyddion o’r Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge yn gweithio gyda’i gilydd i baratoi arddangosfa wych newydd o waith yr arlunydd Falcon Hildred a fydd yn agor yn Oriel Coalbrookdale yng nghanol Safle Treftadaeth Byd Ceunant Ironbridge ar y 5ed o Hydref.

Mae Falcon Hildred yn arlunydd hynod ddawnus sydd wedi neilltuo oes o waith i gofnodi adeiladau a thirweddau diwydiant y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Drwy gofnodi manylion newidiadau technolegol a pheirianyddol a ffordd o fyw sy’n prysur ddiflannu, mae ef wedi creu gweithiau o werth esthetig, hanesyddol a chymdeithasol mawr. Gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge, a chyda chymorth ariannol Cronfa Dreftadaeth y Loteri, prynodd y Comisiwn ei gasgliad unigryw o fwy na 600 o luniadau gwreiddiol o adeiladau a thirweddau diwydiannol yn gynharach eleni. Bydd yr arddangosfa yn ei gwneud hi’n bosibl i’r cyhoedd weld y casgliad eiconig hwn am y tro cyntaf.

Fel yr eglura Peter Wakelin, ein Hysgrifennydd, “Mae gwaith oes Falcon Hildred yn gofnod unigryw o ddiwylliant y dosbarth gweithiol ac o dirweddau diwydiannol. Mae’r casgliad yn adnodd gwych i’r sawl sy’n ymddiddori yn y dreftadaeth honno gan fod llawer ohoni wedi diflannu ers i Falcon ei dogfennu. Bydd yr arddangosfa gyntaf hon a’r llyfr sy’n cyd-fynd â hi yn tynnu sylw llawer o bobl at ei waith a’r hanes eithriadol o ddifyr y mae’n ei gynrychioli.”

Meddai Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Mae Cymru’n enwog ledled y byd am ei threftadaeth ddiwydiannol ac mae caffael y casgliad hwn wedi golygu bod modd rhannu’r gorffennol hwnnw mewn ffordd unigryw. Rydyn ni’n wirioneddol falch bod cynifer o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y prosiect a bod cynifer o bobl yn awr yn mynd i gael gweld lluniadau a lluniau dyfrlliw arbennig iawn”.

Cynhelir yr arddangosfa ddi-dâl yn Oriel Coalbrookdale yn Amgueddfa Ceunant Ironbridge a bydd ar agor rhwng 10am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener, o 5 Hydref 2012 hyd 20 Ebrill 2013. Ffoniwch 01952 433424 neu ewch i www.ironbridge.org.uk  i gael rhagor o fanylion.
Carchar Caerdydd, 1986
Comisiynwyd codi Carchar Caerdydd yn sgil barnu nad oedd y carchar cynt yn debyg o fod yn ddigon mawr i gymryd yr holl garcharorion wrth i’r dref ddiwydiannol ehangu’n gyflym. Agorwyd y carchar newydd ddiwedd 1832 ac yr oedd ynddo le i wyth deg o garcharorion ac ugain o ddyledwyr
© Y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad Falcon Hildred,
FHA 02/66, NPRN 3072


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin