Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday, 28 June 2016

Swydd Wag - Cynorthwyydd Ymholidau a Llyfrgell






Fel aelod staff sy’n cyfrannu at reoli gweithgareddau gwasanaethau cyhoeddus y sefydliad, bydd y Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell yn chwarae rhan bwysig mewn helpu’r Comisiwn Brenhinol i gyflawni ei amcan strategol o drefnu i ddaliadau archif a llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) fod ar gael i’r cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo’r rheiny sy’n defnyddio’r gwasanaeth ymholiadau mewn person ac o bell a chyfrannu at reoli llyfrgell gyhoeddus arbenigol CHCC.

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon a chaiff ei brofi adeg cyfweliad.

Mae modd i lawr lwytho’r ffurflen gais a disgrifiad o’r swydd o’n gwefan: www.cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday, 27 June 2016

Mae’r Coflein Newydd ar Waith Heddiw





Mae’r Coflein Newydd ar Waith Heddiw
Ochr yn ochr â’r symud i’n cartref newydd, mae’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n gwella’n gwasanaethau ar-lein, ac mae’r cyntaf o’r gwelliannau hynny’n digwydd heddiw: mae Coflein yn newid.

Mae’n bleser mawr gennym gyflwyno ffyrdd newydd o chwilio am ganlyniadau a’u harddangos i gynyddu’ch gallu chi i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am archaeoleg a threftadaeth Cymru. Gallwch chi’n awr gynhyrchu mapiau dosbarthiad o’ch chwiliadau a’u llwytho i lawr mewn ffeil .CSV neu ffeil Google Maps .KML. Yn ein hadran Orielau newydd, gallwch chi hefyd weld rhai o’r lluniau gorau sydd gennym yn ein harchif.

Mae Coflein wedi’i chynllunio i fod yn hawdd ei chyrraedd ar eich ffôn neu’ch tabled. Oherwydd ein hymrwymiad i wella’n gwasanaethau ni’n gyson, mae rhagor o nodweddion gwych ar y gweill ac fe ddaw gwelliannau i’n system fapiau cyn hir. Defnyddiwch y botwm Adborth i ddweud eich dweud amdanynt.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday, 22 June 2016

Gwasanaeth Ymholiadau’r Comisiwn Brenhinol – 6 Gorffennaf 2016






Ar ôl i’r Comisiwn Brenhinol adleoli’n llwyddiannus i swyddfeydd newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’n dda gennym gyhoeddi y bydd y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil newydd yn agor i’r cyhoedd ar 6 Gorffennaf 2016. Gallwch ddod o hyd i ni yn y Llyfrgell Genedlaethol ger Ystafell Ddarllen y Gogledd. Yma, unwaith eto, bydd ymwelwyr yn gallu pori yn ein casgliad unigryw o lyfrau, cylchgronau a mapiau a gweld deunydd o’r archif.

Bydd y gwasanaeth ymholiadau yn ailddechrau ar 6 Gorffennaf. Ewch i’n gwefan i ddarganfod sut i wneud ymholiad.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Oriau Agor i’r Cyhoedd
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener: 09.30 – 16.00 Dydd Mercher: 10.30 – 16.30

I gael y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf ewch i’n blog, Newyddion Treftadaeth Cymru, ein tudalen Facebook neu dilynwch ni ar Twitter @RCAHMWales, @RC_Archive, @RC_Survey ac @RC_Online1.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin


Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday, 14 June 2016

Dehongli ac ymweld ag archaeoleg Ynys Sgomer





Louise Barker (yn pwyntio) yn gweithio gyda Swyddog Ymwelwyr Sgomer a gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ar ymweliad diweddar ag Ynys Sgomer.
Mae archaeoleg Ynys Sgomer, Sir Benfro, wedi’i chadw’n arbennig o dda. Ar draws yr ynys gellir gweld olion ffiniau wedi’u creu â chlogfeini, waliau cerrig taclus, a sylfeini tai crwn. Dengys y rhain i lawer o’r ynys gael ei ffermio yn ystod yr Oes Haearn a’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig rhwng 2,000 a 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae maen hir amlwg, Maen Harold, a megalithau eraill yn awgrymu bod pobl yn byw yma yn llawer cynharach na hyn, yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar.
Tŷ crwn o’r Oes Haearn neu’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig yn y Wick ar Ynys Sgomer. Golwg yn dangos y drws.
Yn sgil arolygon archaeolegol a chloddiadau newydd gan y Comisiwn Brenhinol, ar y cyd â chydweithwyr o Brifysgol Sheffield, Prifysgol Caerdydd a Cadw, mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sy’n rheoli Sgomer, yn gobeithio gwella’r arwyddion ar yr ynys a’r wybodaeth am ei harchaeoleg yn ystod 2016.

Tua diwedd Mai, teithiodd Louise Barker a Toby Driver, archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol, i Sgomer i gyfarfod â Leighton Newman, Swyddog Ymwelwyr Sgomer, a Hannah, gwirfoddolwraig ers blynyddoedd, i siarad am archaeoleg yr henebion cynhanesyddol mwyaf gweladwy. Gobaith Leighton a Hannah yw adnewyddu rhannau o Lwybr Hanes Sgomer, a sefydlwyd gyntaf ar ôl gwaith a wnaed gan yr Athro John Evans yn y 1980au.

Mae un o’r tai crwn cynhanesyddol mwyaf hygyrch a thrawiadol yn Sir Benfro i’w weld yn y Wick, yn agos at un o’r prif wylfannau Palod. Gosodwyd arwydd newydd yno i ddangos safle’r tŷ. Gall ymwelwyr gerdded i mewn i sylfeini’r tŷ crwn, drwy ei borth amlwg, a dychmygu’r olygfa ddomestig o fewn ei furiau ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Un o’r arwyddion newydd sy’n gwahodd ymwelwyr i archwilio’r tŷ crwn cynhanesyddol yn y Wick.
Mae’n bosibl bod gan y tŷ wal o blethwaith a choed a tho conig yn wreiddiol. Er bod coed ar gyfer adeiladu yn brin ar Ynys Sgomer yn yr Oes Haearn, gellid fod wedi cludo pyst, polion a defnyddiau adeiladu eraill i’r ynys ar gwch. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn parhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i godi ymwybyddiaeth o drysorau archaeolegol Sgomer. Os hoffech ymweld ag Ynys Sgomer, ewch i’r wefan: http://www.welshwildlife.org/skomer-skokholm/skomer/

Gan Toby Driver, RCAHMW


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday, 8 June 2016

Canmlwyddiant y Cwt Nissen





Ffotograff: Dau Gwt Nissen yn Nepo Arfau’r Llynges Frenhinol (RNAD), Trecŵn, Sir Benfro, NPRN 96059
Un o adeiladweithiau milwrol mwyaf adnabyddus y byd yw’r Cwt Nissen. Cafodd y dyluniad syml ar siâp hanner silindr ei ddatblygu gan ŵr o dras Ganadaidd-Americanaidd, y Capten Peter Norman Nissen, o 29ain Cwmni y Peirianwyr Brenhinol, ym 1916.

Cafodd y cytiau eu defnyddio gyntaf yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno yn Hesdin, Ffrainc. Byddai’r cytiau ysgafn, rhad a symudol yn cael eu cynhyrchu mewn tri lled – 16, 24 a 30 troedfedd – a châi’r adrannau mewnol eu gosod ar 6 throedfedd fel bod modd creu cwt o unrhyw hyd yn ôl y gofyn. Gallai un lori fyddin 3 tunnell gludo’r uned safonol gyfan. Roedd y llwyth yn cynnwys haen allanol o haearn rhychiog, leinin mewnol o bren, fframiau metel ar ffurf hanner cylch, drws pren, a ffenestri oelcloth. Gallai tîm arbenigol o chwe dyn godi cwt ar sylfaen goncrit barod mewn pedair awr. Yr amser byrraf ar gyfer codi cwt oedd 1 awr 27 munud. Amcangyfrifir i 100,000 o unedau gael eu cynhyrchu yn ystod y rhyfel.

Roedd y Cytiau Nissen yn cwrdd â’r galw am adeiladau dros dro i gartrefu’r miloedd ar filoedd o filwyr a oedd newydd ymuno â’r fyddin. Roedd y dyluniad hyblyg yn golygu y gallai’r cytiau gael eu defnyddio hefyd fel ceginau, ystafelloedd bwyta, storfeydd, gorsafoedd trin clwyfau, eglwysi ac ati.

Lluniad: O Gasgliad Medwyn Parry.
Roedd Nissen wedi codi patent am ei ddyluniad yn y DU, Awstralia, De Affrica, Canada a’r Unol Daleithiau. Ond gwrthododd unrhyw freindaliadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwnaeth y cwmni gweithgynhyrchu yr un peth eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Nid Capten Nissen oedd yr unig un a fu’n datblygu cytiau dros dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enghreifftiau eraill oedd Cytiau Armstrong, Cytiau Aylwin, Cytiau Forest, Cytiau Cludadwy Tarrant, a Chytiau Weblee, yr oedd pob un ohonynt wedi’u henwi ar ôl swyddogion gyda’r Peirianwyr Brenhinol. Cafodd dyluniadau tebyg eu datblygu yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd, er enghraifft, Cytiau Abbey, Cytiau Iris, Cytiau Romney, a Chytiau Tufton. Ond nid oedd yr un o’r rhain mor hollbresennol ag un o glasuron dylunio mwyaf yr ugeinfed ganrif, y “Cwt Nissen” eponymaidd. Mae’r cysyniad syml wedi parhau i gael ei ddefnyddio am ganrif bron, heb unrhyw newid i’w siâp sylfaenol.

Gan Medwyn Parry


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday, 6 June 2016

Llechi Cymru yng Ngŵyl y Gelli






Cafodd cyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes, gryn sylw yng Ngŵyl y Gelli eleni. Traddododd David Gwyn, yr awdur, ddarlith awdurdodol a difyr yno ar bob agwedd ar y diwydiant, o’r diwylliannol i’r technegol ac o’r cartrefi i’r chwareli.

Cadeiriwyd y sesiwn gan Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, ac un o’r prif bynciau a drafodwyd oedd y cais dan arweiniad Cyngor Gwynedd i ennill statws Treftadaeth Byd i’r Diwydiant. Roedd cefnogaeth frwd y gynulleidfa i’r cais yn hynod galonogol.

Gan Louise Barker

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin