Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw (Llywodraeth Cymru) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Prosiect Cofebion Rhyfel Powys 2014-2018: Arwydd o Barch. Pwrpas y prosiect hwn yw coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel rhan o’r prosiect mae cystadleuaeth ffotograffiaeth yn cael ei chynnal i gofnodi’r cofebion rhyfel. Fel yr eglura Nathan Davies, Swyddog Prosiect Cofebion Rhyfel Powys, “Rydym yn gwybod am tua 300 o gofebion rhyfel ym Mhowys, yn amrywio o groesau cerrig i ffenestri lliw, o blaciau i gerfluniau. Ond mae’n debygol fod yna lawer mwy na hyn. Un o nodau’r prosiect yw canfod, cofnodi a chatalogio’r holl gofebion Rhyfel Byd Cyntaf yn y sir. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i gofeb ryfel, cymryd ffotograff ohoni, llenwi'r ffurflen gais a’i e-bostio atom. Dyna'r cyfan! Byddwch yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cael cyfle i ennill cyfran o'r wobr ariannol o £200.”
Cystadleuaeth ddi-dâl yw hon, ac mae dau gategori o gystadleuwyr: pobl ifanc ac oedolion. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Dydd Gwener, 10 Mehefin, 2016. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen y prosiect ar y wefan www.growinpowys.co.uk/2091/competitions neu cysylltwch â Nathan Davies:
E-bost: warmemorials@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827 597
Gwefan: www.growinpowys.co.uk
Cyngor Sir Powys, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys. LD1 6AA
Y beirniaid yw Iain Wright, cyn ffotograffydd y Comisiwn Brenhinol, a chynrychiolwyr o’r Eglwys yng Nghymru a’r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Cofeb ryfel Llanfair ym Muallt NPRN: 419416, DS2013_438_003 Cafodd y gofeb hon ei chodi ar safle amlwg yn y fynedfa i’r Groe, ac mae’n ymgorffori ffigurau sy’n cynrychioli’r fyddin, y llynges, y llu awyr a’r llynges fasnachol. |
Cofeb ryfel sir Drefaldwyn NPRN: 32916, DS2013_514_002 Mae gan Gofeb Ryfel y Sir, ar gopa Town Hill, Trefaldwyn, le amlwg yn y dirwedd a gellir ei gweld o filltiroedd i ffwrdd. |
Tŵr cloc cofeb ryfel Rhaeadr NPRN: 32982, DS2013_440_003 Mae’r eiconograffi gwladgarol ar Dŵr Cloc Cofeb Ryfel Rhaeadr yn dangos draig y Cymry yn trechu eryr ymerodrol yr Almaen. |
Gwn Twyn-y-garth NPRN: 437, DS2013_515_001 Mae un o gofebion rhyfel mwyaf atgofus Cymru i’w gweld ar fryn Twyn-y-garth. Howitser Almaenig o’r Rhyfel Byd Cyntaf ydyw, sef ‘leichte Feldhaubitzer105 mm’. Cafodd y gwn ei lwyr adfer yn 2001 i goffáu’r mileniwm. |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales