Er y gall Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd fod yn enwog drwy’r byd, mae llawer ohonom yn cymryd parciau, meysydd chwarae a chanolfannau hamdden yn ganiataol. Yn Fields of Play, mae’r awdur, Daryl Leeworthy, yn olrhain hanes y safleoedd cyhoeddus hyn ac yn edrych ar effaith chwaraeon ar dirwedd Cymru fodern.
Mae’n ystyried yr amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, o’r parc cyhoeddus cynharaf a agorwyd ym 1858 yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, i bwll nofio Llwyn Onn yn Wrecsam a agorwyd ym 1854, i’r tiroedd lles niferus a sefydlwyd ar draws Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Rhoddir sylw hefyd i leoliadau chwaraeon llai hysbys, megis y llawr Troed-rolio Americanaidd yng Nghaerdydd a adeiladwyd ym 1908, stadiwm rasio milgwn Welsh White City o 1928 a’r Stadiwm Rasio Beiciau Modur byrhoedlog yn Heol Penarth yn y 1950au.
Llun a dynnwyd tua 1934 o gêm o dennis yn adfeilion Palas yr Esgob, Tyddewi, NPRN: 21633 |
Trafodir hefyd dreftadaeth chwaraeon Cymru yn fwy cyffredinol, mewn pennod ar rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol sy’n edrych ar yr isadeiledd a grëwyd wrth i feicio, cerdded y mynyddoedd, dringo a hosteli ieuenctid ddod yn boblogaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Ceir yn Fields of Play 172 o ffotograffau hanesyddol a chyfoes gwych, gan gynnwys llawer o ddelweddau sydd heb eu gweld o’r blaen o archif Aerofilms yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r gyfrol yn codi’r llen ar yr agwedd bwysig hon ar dreftadaeth adeiledig Cymru a bydd yn cynyddu ein gwerthfawrogiad o leoedd chwaraeon yn y dirwedd.
Beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud i ddathlu Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol ar Ddydd Mawrth, 30 Medi 2014 mae’n werth cofio y byddai gennym lawer llai o gyfleusterau chwaraeon heddiw oni bai am ymdrechion y rheiny a frwydrodd i greu parciau a lleoedd agored Cymru dros ganrif yn ôl.
Pris y llyfr yw £9.95 ac mae ar gael gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ym mhob siop lyfrau dda.
Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales gan Daryl Leeworthy, gyda Rhagair gan Eddie Butler, wedi’i gyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2012, 180 o dudalennau, 172 o ddarluniau, maint 252x224mm.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales