Y ffenestr orllewinol yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint, yn dangos Addoliad y Doethion. DI2005_0594, NPRN 310514 |
Manylyn o’r ffenestr, yn dangos y Forwyn Fair, y baban Iesu ac angylion. DI2005_0594, NPRN 310514 |
Arlunydd a dylunydd Prydeinig oedd Burne-Jones a chwaraeodd ran allweddol yn adfywiad celf gwydr lliw ym Mhrydain yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hefyd yn un o’r partneriaid a sefydlodd y cwmni celfyddydau addurnol hynod o ddylanwadol Morris, Marshall, Faulkner & Co. ym 1861, ochr yn ochr â William Morris, Charles Faulkner, Peter Paul Marshall, Dante Gabriel Rossetti, Ford Madox Brown a Phillip Webb. Ailffurfiwyd y cwmni o dan yr enw Morris & Co. ym 1875, ac mae llawer o’i ddyluniadau’n parhau i gael eu defnyddio i addurno cartrefi heddiw.
Mae’r ffenestr hon yn nodweddiadol o’r dyluniadau gwydr lliw a gynhyrchwyd gan Burne-Jones: mae ei feistrolaeth ar ddilladaeth, ei dreswaith llyfn a’r llu o angylion sy’n amgylchynu’r Iesu yn nodweddiadol o’i arddull.
Manylyn o’r ffenestr, yn dangos y Doethion yn dod ag anrhegion o aur, thus a myrr. DI2005_0594, NPRN 310514 |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales