Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales (ISBN 978-1-87118-445-7) |
Bu disgwyl mawr am gyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, a gyrhaeddodd heddiw. Cyhoeddwyd y llyfr i nodi’r flwyddyn Olympaidd 2012 ac mae’n llawn lluniau gwych gan gynnwys llawer o ddelweddau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen. Drwy astudio’r amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon o barciau cyhoeddus a phyllau nofio awyr agored i feysydd chwarae a stadia, a rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol, mae’r llyfr hwn yn sicr o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o leoedd chwaraeon yng Nghymru.
Bydd y llyfr ar gael i bawb yn gynnar yr wythnos nesaf am bris o £14.95 yn unig gan gynnwys cludiant (y DU yn unig). Ffoniwch y Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200 neu ewch i’n gwefan www.cbhc.gov.uk i archebu copi. Gall Cyfeillion brynu copi o’r llyfr am y pris arbennig o £13.50 yn unig gan gynnwys cludiant (y DU yn unig). Byddwch cystal â dyfynnu Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol wrth roi eich archeb.
Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales (ISBN 978-1-87118-445-7) |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales