Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 1 March 2013

Misericordiau yn Nhyddewi





Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro.
NPRN: 306   DI2008_1029

Ystyrir mai Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro yw’r safle sancteiddiaf yng Nghymru. Mae’n sefyll ar safle mynachlog o’r chweched ganrif a sefydlwyd gan Ddewi Sant, y cedwid ei greiriau yn yr Eglwys Gadeiriol hyd y Diwygiad pryd y cawsant eu cymryd ymaith ynghyd â chreiriau Justinian. Adeilad eiconig yw’r Eglwys Gadeiriol ei hun, ond er i lygaid yr ymwelwyr gael eu tynnu tuag i fyny yn aml at waith carreg a nenfwd ysblennydd canol yr eglwys, mae’n bosibl na fyddant yn gweld rhai o fanylion hyfryd Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Seddau sydd i’w cael fel rheol yng nghwir eglwys neu eglwys gadeiriol yw misericordiau; mae eu dyluniad yn caniatáu iddynt gael eu plygu i fyny pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae silff fach ar du isaf y sedd y gall y defnyddiwr bwyso arni i fod yn llai anghysurus wrth sefyll yn ystod gwasanaethau hir. Daw’r enw o’r Lladin ‘misericordia’, sy’n golygu trugaredd. O ganlyniad, cânt eu galw’n ‘seddau trugaredd’ neu ‘seddau tosturi’ weithiau. Yr un fath â llawer o’r gwaith coed mewn eglwysi ac eglwysi cadeiriol, mae misericordiau wedi’u cerfio’n grefftus yn aml, gan ddangos amrywiaeth fawr o bynciau.

Cafodd pob un o’r misericordiau yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant ei gerfio o un darn o dderwen. Oherwydd eu safle cudd, nid oedd cyfyngiadau celf eglwysig draddodiadol yn llyffetheirio’r crefftwyr ac roeddynt yn gallu eu mynegi eu hunain yn fwy rhydd. Eu hysbrydoliaeth oedd bwystoriau, chwedlau a storïau gwerin ac roeddynt braidd yn amharchus yn aml! Mae’r delweddau isod yn dangos rhai o’r misericordiau sydd i’w gweld yn y cwir yn Nhyddewi:

Câi misericordiau eu defnyddio gan glerigwyr i leddfu eu hanghysur yn ystod gwasanaethau hir. Mae’r geiriau sydd wedi’u peintio uwchben pob un yn cyfeirio at enw a/neu swydd y person a oedd yn eu defnyddio ar adeg benodol.
NPRN: 306   DI2012_2607

Mae’r misericord hwn yn dangos pererinion mewn cwch, a thynnwyd y llun gan Mrs. Trenchard Cox ym 1948.
NPRN: 306   DI2008_0016

Misericord yn dangos ‘saer llongau’. Tynnwyd y llun hwn ym 1948 hefyd.NPRN: 306   DI2008_0162

Roedd wynebau fel hwn yn destunau poblogaidd ar gyfer misericordiau.NPRN: 306   DI2012_2603

Câi bwystfilod rhyfeddol fel hwn eu hysbrydoli gan fwystoriau’r Oesoedd Canol yn aml.NPRN: 306   DI2012_2604

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin