Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 3 June 2016

Llyfr y Comisiwn Brenhinol ar y Diwydiant Llechi yng Nghymru yn Cyrraedd y Rhestr Fer ar Gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain 2016







Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain, a roddir am y darganfyddiadau a datblygiadau arloesol diweddaraf ym maes archeoleg ar draws y DU, wedi’i rhyddhau heddiw gan y beirniaid.

Mae llyfr newydd David Gwyn ar archaeoleg a hanes diwydiant llechi Cymru, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Archeoleg Gorau 2016. Cyhoeddir y canlyniadau yn ystod seremoni cyflwyno Gwobrau Archeolegol Prydain dan arweiniad Julian Richards, y cyflwynydd teledu ac archaeolegydd ‘Meet the Ancestors’, yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar 11 Gorffennaf.

Bydd y seremoni hefyd yn nodi lansio Gŵyl Archeoleg flynyddol Cyngor Archeoleg Prydain a gynhelir rhwng 16 a 31 Gorffennaf. Bydd mwy na 1000 o ddigwyddiadau y gall y cyhoedd gymryd rhan ynddynt, llawer ohonynt am ddim, yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru a’r DU.

Caiff y prosiectau a chyhoeddiadau a gynigir ar gyfer Gwobrau Archeolegol Prydain eu beirniadu gan baneli annibynnol o arbenigwyr blaenllaw sy’n gweithio ym mhob maes archaeolegol, gan gynnwys y sectorau proffesiynol a gwirfoddol.


Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru:

“Mae’n rhyfeddol meddwl bod cymaint ag un rhan o dair o holl lechi to y byd yn dod o Gymru erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r llyfr hynod ddifyr hwn yn defnyddio tystiolaeth archaeolegol a chyfoeth o ffynonellau gwreiddiol a ffotograffau i olrhain hanes y diwydiant a roddodd Cymru ar y map diwydiannol. Rydym wrth ein bodd bod y beirniaid wedi cydnabod camp David a gwaith y Comisiwn Brenhinol.”

Ychwanegodd Dr David Gwyn, awdur y llyfr:

“Rydw i’n hynod falch bod fy llyfr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, ac o glywed bod y diwydiant pwysig hwn, sydd ar hyn o bryd yn ymgeisydd ar gyfer statws Treftadaeth Byd, wedi dod yn ganolbwynt cymaint o ddiddordeb a sylw yn y gymuned archaeolegol.”

Mae’r llyfr ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg:
Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes (ISBN: 978-1871184-52-5).
Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry (ISBN: 978-1871184-51-8)
Llyfrau fformat mawr yw’r rhain, yn cynnwys 291 o dudalennau a 243 o ddelweddau o ansawdd uchel. Y pris yw £45.

Nododd Deborah Williams, Cadeirydd Gwobrau Archeolegol Prydain,
“Mae’r cynigion eleni’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth anhygoel y gwaith archaeolegol sy’n cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, safon ac arbenigedd ein harchaeolegwyr arloesol, a diddordeb cynyddol y cyhoedd yn hanes ac archeoleg eu hardal leol.

“Mae mwy a mwy o archaeolegwyr yn ymateb i’r diddordeb hwn drwy ddatblygu ffyrdd newydd o helpu pobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a chloddio, i gychwyn eu prosiectau eu hunain, ac i rannu a deall darganfyddiadau newydd – ac mae’r duedd hon i’w gweld yn glir yn y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.”


Gwelir amrywiaeth eang o brosiectau ar y rhestr fer, o bob rhan o’r DU. Ceir arni gloddiadau mawr yn sgil datblygiadau mewn dinasoedd fel prosiect ‘Westgate Oxford’ gan Oxford Archeology South, ‘London’s Lost Graveyard: the Crossrail Discovery’ a gafodd sylw yn rhaglen ‘Secret History’ cwmni True North Production ar gyfer Sianel 4, a phrosiectau ymchwil tymor-hir gan brifysgolion megis prosiect ‘Silchester Town Life’ a ‘Dig Greater Manchester’. Ceir hefyd brosiectau cymunedol megis prosiect ‘Hearth, Home and Farm’ Ymddiriedolaeth Whithorn yn Dumfries a Galloway, a phrosiect ‘Battles, Bricks and Bridges’ yn Swydd Fermanagh, yn ogystal â phrosiectau partneriaeth traws-gymunedol sy’n cynhyrchu adnoddau addysgu newydd megis ‘The Picts: a learning resource’ gan Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban a’r ‘Ulster-Scots Archaeological Services Project’ yng Ngogledd Iwerddon.

Mae nod cyffredin yn uno pob un o’r rhain, sef cynnwys a thanio brwdfrydedd pobl ifanc a’r cyhoedd yn archaeoleg Prydain.

Mae’r llyfrau ar y rhestr fer yn adrodd hanes diwydiant llechi Cymru, yn archwilio’r olion cyfoethog ar ynys St Kilda yn Ynysoedd Heledd Allanol, ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r damcaniaethau ynghylch Côr y Cewri, dirgelwch archeolegol pennaf Prydain.

Dethlir ymdrechion archeoleg i hyrwyddo a manteisio ar dechnegau arloesol. Mae app Digital Dig Team a gynhyrchwyd gan DigVentures yn rhannu ‘darganfyddiadau’ cloddio ar unwaith ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol, a chynhwyswyd animeiddiad papur gydag ‘Under London’ gan National Geographic i helpu’r darllenydd i ddeall cronoleg yr archeoleg o dan y ddinas.

Mae cylchgrawn ‘Internet Archaeology’ a ‘Postglacial Project’ Prifysgol Efrog yn defnyddio Delweddu Trawsffurfiad Adlewyrchiant (RTI), modelu 3D a ffeiliau amlgyfrwng wedi’u mewnblannu i helpu cyd ymchwilwyr a’r cyhoedd i ddehongli darganfyddiadau newydd drostynt eu hunain ac i ddeall yr hyn y maent hwy’n ei ddweud wrthym am y gorffennol a’r byd o’n cwmpas.

Y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
PROSIECT ARCHEOLEGOL GORAU
  • ‘Silchester Town Life’, Prifysgol Reading
  • ‘Ulster-Scots Archaeological Services Project’, AECOM/The Irish Archaeological Consultancy Ltd
  • ‘Westgate Oxford’, Oxford Archaeology South
PROSIECT ARCHEOLEG GYMUNEDOL GORAU
  • ‘Battles, Bricks and Bridges’, Cymdeithas Gymunedol Cleenish a Chymdeithas Datblygu Cymunedol Killesher
  • ‘Dig Greater Manchester’, Y Ganolfan Archeoleg Gymhwysol, Prifysgol Salford
  • ‘Whithorn: Hearth, Home and Farm’, gyda Dig TV, Ymddiriedolaeth Whithorn 
LLYFR ARCHEOLEGOL GORAU
  • ‘St Kilda: The Last and Outmost Isle’, Angela Gannon a George Geddes, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban
  • ‘Stonehenge: Making sense of a prehistoric mystery’, Mike Parker Pearson gyda Joshua Pollard, Colin Richards, Julian Thomas a Kate Welham, Cyngor Archeoleg Prydain
  • ‘Llechi Cymru – Archaeoleg a Hanes’, David Gwyn, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
CYFLWYNIAD CYHOEDDUS ARCHEOLEGOL GORAU
  • ‘The Picts: a learning resource’, Comisiwn Coedwigaeth yr Alban
  • Secret History, ‘London’s Lost Graveyard: The Crossrail Discovery’, True North Productions ar gyfer Sianel 4
  • ‘Under London’, Cylchgrawn y National Geographic 
DATBLYGIAD ARLOESOL ARCHEOLEGOL GORAU
  • ‘Digital Dig Team’, DigVentures
  • Internet Archaeology, Prifysgol Efrog
  • POSTGLACIAL Project, Prifysgol Efrog

Gallwch weld manylion y prosiectau sydd ar y rhestr fer yn www.archaeologicalawards.com a dilyn hynt y Gwobrau ar twitter @BAAWARDSUK

Nodiadau i olygyddion:

1. Cynhelir Gwobrau Archeolegol Prydain bob dwy flynedd a chânt eu rheoli gan elusen annibynnol, dan gadeiryddiaeth Deborah Williams o Historic England, ac ymddiriedolwyr sy’n cynrychioli pob sector o’r proffesiwn. Noddir Gwobrau 2016 gan Ymddiriedolaeth Robert Kiln, Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, yr Amgueddfa Brydeinig, y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, Historic England, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr, Archaeology Scotland, Historic Environment Scotland, a Cadw. I weld manylion yr ymddiriedolwyr a’r noddwyr ewch i: www.archaeologicalawards.org.uk

Sefydlwyd y Gwobrau ym 1976 ac felly buont yn cael eu cynnal ers 38 mlynedd. Mae pum categori o wobrau ac mae gwobrau dewisol ar gael hefyd ar gyfer Cyflawniad Rhagorol a’r Darganfyddiad Gorau. Nod y Gwobrau yw hybu addysg archeolegol gyhoeddus ac astudio ac ymarfer archaeoleg yn ei holl agweddau yn y Deyrnas Unedig ac, yn arbennig, rhoi grantiau ar sail rhagoriaeth neu am resymau priodol eraill.

Mae amcanion y Gwobrau fel a ganlyn: cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi gan archeolegwyr, y rheiny y gweithiant gyda hwy a’r cyhoedd; hwyluso a dathlu arfer da ym maes archeoleg; tynnu sylw at y ddisgyblaeth, a helpu i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i archeoleg oherwydd ei gwerth academaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chysylltiadau cyhoeddus.

2. Rhoddir y Gwobrau i gydnabod agweddau ar archeoleg o’r ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi’u henwebu gan y gymuned archeolegol a’u beirniadu’n annibynnol gan baneli o arbenigwyr o bob rhan o’r sector archeoleg:

Cadeiryddion y Paneli Beirniadu ar gyfer cynigion 2016 oedd:
  • Prosiect Archeolegol Gorau: John Lewis
  • Prosiect Archeoleg Gymunedol Gorau: Eila Macqueen
  • Llyfr Archeolegol Gorau: Paul Stamper
  • Cyflwyniad Cyhoeddus Archeolegol Gorau: Louise Ennis
  • Datblygiad Arloesol Archeolegol Gorau: Andrew Davidson
3. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar wefan Gwobrau Archeolegol Prydain ar ôl y seremoni ar 11 Gorffennaf: www.archaeologicalawards.org.uk

4. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwefan: www.rcahmw.gov.uk Twitter: @RCAHMWales Facebook: https://www.facebook.com/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales-146120328739808/

5. Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu luniau, neu drefnu cyfweliad, cysylltwch â: Nicola Roberts: nicola.roberts@cbhc.gov.uk Ffôn:- 01970 621248

www.archaeologicalawards.org.uk
Twitter: @BAAWARDSUK Facebook: https://www.facebook.com/baawards



ENDS

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin