Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 14 July 2014

Pen-blwydd Hapus! Mae Coflein yn ddeng mlwydd oed





Ar 13 Gorffennaf 2004 cafodd Coflein – cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – ei lansio gan Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd. Yn ei araith i gynulleidfa yn Nhŷ Crughywel, a fu’n gartref i’r Cynulliad cyn adeiladu Adeilad y Senedd, disgrifiodd y Gweinidog y gwasanaeth a’r bartneriaeth arloesol (SWISH – Gwasanaethau Gwybodaeth Gwe a Rennir ar gyfer Treftadaeth) a roddodd fod iddo. Mae’r bartneriaeth hon, rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, yn parhau i reoli Coflein, yn ogystal â gwasanaethau eraill megis Cymru Hanesyddol, a bu’n gyfrifol am ddatblygu’r wefan yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.

Tîm gwreiddiol SWISH a oedd yn gyfrifol am ddatblygu Coflein yn 2004. Mae’r ffotograff yn cynnwys rheolwyr prosiect a datblygwyr cronfa ddata o Gomisiynau Brenhinol yr Alban a Chymru.

Fel fersiwn ar-lein cronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, mae Coflein yn cynnig mynediad i’w gasgliadau ar archaeoleg, pensaernïaeth hanesyddol, a threftadaeth ddiwydiannol ac arforol Cymru. Pan gafodd ei lansio, roedd gwybodaeth ar gael am 64,000 o safleoedd. Yn y cyfamser, oherwydd gwaith cofnodi, arolygu a gwella data parhaus y Comisiwn Brenhinol, mae’r nifer wedi codi i bron 110,000. Mae’r ffigur ar gyfer y cynnydd yn hygyrchedd adnoddau digidol yr archif yn fwy trawiadol byth. Adeg lansio’r gwasanaeth yn 2004, roedd oddeutu 3000 o ddelweddau ar gael. Yn 2014 mae mwy na 105,000 o eitemau digidol yn hygyrch, gan gynnwys delweddau, mapiau a llawysgrifau wedi’u sganio yn ogystal â ffotograffau digidol. Mae hyn yn adlewyrchu’r pwyslais ar ddigido yn y Comisiwn a’r newid mewn arfer ffotograffig yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, sy’n golygu bod ein holl ffotograffiaeth bellach yn ddigidol. Mae ein harferion gwaith yn sicrhau bod deunydd a gesglir yn y maes i’w weld ar Coflein yn gyflym iawn.

Gan mai partneriaeth sy’n parhau yw SWISH, mae’r safle wedi datblygu yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn 2008, oherwydd newidiadau i’r dechnoleg a dyluniad y rhyngwyneb roedd yn bosibl diwygio’r system yn sylweddol i gyd-fynd â phen-blwydd y Comisiwn yn 100 oed. Yn 2011, cyflwynwyd rhaglen fapio ddiwygiedig sy’n caniatáu cyfuno ymholiadau testun a map. Yn 2012, daeth yn bosibl chwilio’r catalog yn uniongyrchol, gan alluogi defnyddwyr i gasglu gwybodaeth o gasgliadau neu gyfranwyr penodol, yn ogystal â gwneud ymholiadau’n seiliedig ar safleoedd fel ag o’r blaen. Mae datblygiadau pellach sydd yn yr arfaeth yn cynnwys integreiddio system ymholi ac e-fasnach, a chynnwys mapiau hanesyddol yn y rhaglen fapio.

Mae’r rhaglen fapio newydd, a lansiwyd yn 2011, yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am fapiau a thestun yr un pryd. Mae’r ffotograff hwn o Oleudy Santes Ann yn Sir Benfro yn un o fwy na 105,000 o eitemau digidol o CHCC sydd bellach ar gael ar Coflein.

Mae’r dechnoleg y tu cefn i Coflein wedi cael ei datblygu’n ddiweddar i ddarparu cynnwys ar gyfer gwefannau eraill. Mae Casgliad y Werin Cymru, gwefan sy’n dwyn ynghyd ddeunydd o gyrff treftadaeth, cymdeithasau hanesyddol ac unigolion ar draws Cymru, yn cynnwys bron 10,000 o eitemau a gyrchir yn uniongyrchol o Coflein. Felly gall gwybodaeth o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol gael ei gweld ochr yn ochr ag eitemau o’r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a chyfranwyr eraill. Mae gwefan Prydain oddi Fry yn defnyddio deunydd o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, ynghyd â deunydd cyffelyb o gasgliadau yn yr Alban a Lloegr, fel rhan o brosiect i’r DU gyfan sydd wedi’i seilio ar awyrluniau o 1919 i 1953 o’r casgliad unigryw hwn. Mae’r bartneriaeth SWISH ei hun wedi datblygu Cymru Hanesyddol, gwefan wedi’i seilio ar fapiau sy’n casglu ynghyd gofnodion gan gyrff sy’n dal gwybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys Cadw, pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Bu’n bosibl chwilio’r catalog yn uniongyrchol ers 2012. Mae deunydd o Gasgliad Aerofilms wedi cael ei ddefnyddio ar wefan Prydain oddi Fry ynghyd â deunydd o’r casgliadau cyfatebol yn yr Alban a Lloegr.

Mae nifer y bobl sy’n defnyddio Coflein wedi cynyddu’n gyson ers ei lansio. Y llynedd edrychwyd ar fwy na miliwn o dudalennau gan fwy na 300,000 o ddefnyddwyr. Bu sylwadau defnyddwyr yn gadarnhaol fel rheol, ac rydym wedi derbyn llawer o wybodaeth ychwanegol am safleoedd ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â rhai cywiriadau! Os ydych chi’n ddefnyddiwr rheolaidd, rydym yn diolch i chi am ddefnyddio Coflein, os nad ydych, beth am roi cynnig arni!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin