Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 30 January 2015

Swydd Wag - Rheolwr Cyllid (Tîm Strategaeth ac Adnoddau)





Lleoliad: Aberystwyth

Amrediad Cyflog £27,550 - £33,900
37 awr yr wythnos – penodiad parhaol
(Bydd y penodiad ar neu’n agos at y cyflog lleiaf ar gyfer y band cyflog) 

Bu’r Comisiwn Brenhinol mewn bodolaeth ers 106 o flynyddoedd ac mae’n chwilio am Reolwr Cyllid newydd i lenwi rôl bwysig yng ngham nesaf ei hanes.


Y Comisiwn Brenhinol, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd y Rheolwr Cyllid yn gyfrifol am bob agwedd ar reolaeth ariannol y Comisiwn, gan sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein cyfrifoldebau o dan ein Gwarant Frenhinol ac i Lywodraeth Cymru.

Bydd y Rheolwr Cyllid yn rheolwr rhagweithiol ac effeithiol a bydd yn brofiadol ym mhob agwedd ar reolaeth ariannol sefydliad. Bydd gan yr ymgeiswyr hyder, hunangymhelliant a sgiliau cyfathrebu a TG da (gan gynnwys Sage), yn ogystal â phrofiad sylweddol a/neu gymwysterau proffesiynol neu academaidd priodol mewn disgyblaeth berthnasol.

Croesewir hefyd geisiadau gan y rheiny y mae ganddynt brofiad o reoli cyllid prosiectau wedi’u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri neu’r Undeb Ewropeaidd, neu gyllid cyrff elusennol. Mae datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol a phroffesiynol â staff a chysylltiadau allanol yn hanfodol i’r swydd hon. Felly byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn fantais.

Gellir cael ffurflen gais a manylion pellach gan:-
Mr S Bailey John
Y Comisiwn Brenhinol
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ

E-bost: stephen.bailey-john@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621230
Ffacs: 01970 621246

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16:00, Dydd Gwener 27 Chwefror 2015. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyflogwr cyfle cyfartal.

Manylion llawn: http://bit.ly/1JTvg9Q


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 29 January 2015

Ein Gorffennol a’i Ddyfodol: Safleoedd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru





Mwynglawdd Copr y Gogarth, Llandudno.
Ar 20 Ionawr 2015, gwnaeth Kenneth Skates, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ddatganiad yn y Senedd ar ‘ein gorffennol a’i ddyfodol’.

http://www.assembly.wales/en/bus-home/pages/rop.aspx?meetingid=3101&assembly=4&c=Record of Proceedings - 193652#193652

Os hoffech weld manylion pellach am y safleoedd y mae’n sôn amdanynt yn ei ddatganiad a’r ymatebion, cliciwch ar y safleoedd isod i gysylltu â’r cofnod priodol yn ein cronfa ddata ar-lein www.coflein.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday 27 January 2015

Penodi Ysgrifennydd newydd y Comisiwn Brenhinol: Christopher Catling, MA, FSA






Mae’n bleser gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyhoeddi mai ei Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) newydd fydd Christopher Catling, MA, FSA.

Mae Chris yn ŵr cyfarwydd fel newyddiadurwr, awdur ac ymgynghorydd ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol. Ef yw golygydd Salon, newyddlen ar-lein ac uchel ei pharch Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, a bydd yn cyfrannu’n rheolaidd i Current Archaeology a Country Life. Ef yw Cyfarwyddwr Cronfa Marc Fitch sy’n rheoli buddsoddiadau o £7m ac yn rhoi grantiau o £200,000 y flwyddyn i gynorthwyo ymchwil a chyhoeddi academaidd ym meysydd hanes, archaeoleg a hanes celf.

Mae’n eistedd ar amryw o fyrddau a chyrff ymgynghorol, gan gynnwys Cotswold Archaeology (y mae’n Is-Gadeirydd arno), Gwobrau Archaeolegol Prydain a Phwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Caerloyw. Yn 2000, helpodd i sefydlu Grŵp Pob-Plaid y Senedd ar Archaeoleg i gynyddu amlygrwydd proffil archaeoleg yn nau Dŷ’r Senedd, ac yn 2002 fe sefydlodd Heritage Link (yr Heritage Alliance bellach), cyfansoddiad y corff hwnnw, ei aelodaeth, ei sylfaen ariannu a’i newyddlen Heritage Update.

Mae Chris yn awdur amryw o ganllawiau teithio sydd wedi gwerthu’n dda, gan gynnwys yr Eyewitness Guide to Venice and the Veneto a’r Eyewitness Guide to Florence and Tuscany, ac A Practical Handbook of Archaeology: a beginner's guide to unearthing the past. Ar sail ei ymchwil fel ymgynghorydd, mae ef wedi llunio amryw byd o gynlluniau rheoli cadwraeth i gyrff fel English Heritage a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau eraill, gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer Castell Dover, Castell Leeds a Knole sydd wedi ategu ceisiadau llwyddiannus i’r HLF a chyrff eraill yn ddiweddar.

Meddai Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, Dr Eurwyn Wiliam, ‘Rydw i’n falch dros ben o groesawu Chris yn Ysgrifennydd newydd atom. Mae ganddo record ragorol o amlygu gwerth cymdeithasol ac economaidd ein treftadaeth ac o ddarbwyllo eraill y dylen nhw ddeall a gofalu am ein gorffennol yn fwy effeithiol. Wrth groesawu Chris, hoffwn hefyd roi teyrnged i waith dygn Mrs Hilary Malaws a fu’n barod iawn i ohirio’i hymddeoliad a bod yn Ysgrifennydd Gweithredol dros y flwyddyn ddiwethaf.’


Ar ôl ei ymweliad diweddar â’r Comisiwn, dywedodd Chris

“Anrhydedd mawr yw cael ymgymryd â’r rôl hon ac rwy’n ffodus fy mod i’n ymuno â thîm mor alluog ac amryddawn. Mae ymchwil y Comisiwn yn ddiweddar i ddiwydiant llechi Cymru, capeli anghydffurfiol, archaeoleg uwchdiroedd Cymru a’r dreftadaeth arforol yn enghreifftiau o brosiectau pwysig sy’n esgor ar sylfaen o wybodaeth a fydd yn sail i benderfyniadau hollbwysig ynghylch dyfodol ein gorffennol. Yna, bydd ffrwyth yr ymchwil honno ar gael i bobl Cymru drwy gyfrwng llyfrau, arddangosfeydd, darlithiau a chronfa ddata ar-lein Coflein a thrwy’r casgliadau rhagorol sydd i’w cael yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth.”

“Gan ein bod ni’n gwybod bod llu o bobl yng Nghymru yn teimlo’r un mor angerddol â ni am ein treftadaeth, bwriadwn ddod o hyd i ffyrdd i gynnwys rhagor o bobl yn ein gwaith. Eisoes, mae’r Comisiwn wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr i redeg prosiect llwyddiannus iawn ar dai canoloesol yn Eryri. Ein gobaith yw adeiladu ar hynny i ddatblygu ‘gwyddor dinasyddion’ effeithiol, a systemau gwirfoddoli, gyda’r rhyw 700 o grwpiau treftadaeth sydd yng Nghymru. Yr her at y dyfodol, ac un rwy’n edrych ymlaen ati, yw sicrhau y caiff pawb gyfle i gymryd rhan yn y gwaith buddiol a phleserus o ymchwilio i dreftadaeth arbennig Cymru, ei chofnodi a’i deall.”

Bydd Christopher Catling yn ymgymryd â’i swydd ar 2 Mawrth 2015


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday 26 January 2015

Gorffennol Digidol yn croesawu Minecraft






Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Adam Clarke o The Common People yn un o brif siaradwyr cynhadledd Gorffennol Digidol 2015! Artist, gwneuthurwr ffilmiau ac ymgynghorydd gemau-ar-gyfer-dysgu annibynnol yw Adam a fu’n arloesi gyda defnyddio Minecraft ym meysydd addysg ac ymgysylltu diwylliannol, treftadaeth ac amgylcheddol i gynulleidfaoedd ifanc.

Mewn prosiectau fel Tatecraft, mae Adam yn creu bydoedd hygyrch lle gall y 12 miliwn a rhagor o chwaraewyr Minecraft drwy’r byd gymryd rhan, dysgu, mwynhau a chael eu hysbrydoli. Mae hefyd wedi helpu i sefydlu prosiectau’n seiliedig ar MinecraftEdu, fersiwn o’r gêm a ddatblygwyd fel ail-gymysgiad parod-i’r-ysgol yn benodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Gorffennol Digidol 2015
Manylion Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd

Wedi’i threfnu gan: +Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday 23 January 2015

Cyflwyno’r Prosiect Europa Barbarorum yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015







Prosiect sy’n cael ei gynnal gan wirfoddolwyr, yn academyddion, technegwyr, artistiaid ac eraill, yw Europa Barbarorum, a’i nod yw cyflwyno darlun hanesyddol gywir o’r Oes Haearn Ddiweddarach (272BC-AD14) ar ffurf fersiynau wedi’u haddasu o gemau cyfrifiadur prif ffrwd. Mae wedi derbyn clod beirniadol a phoblogaidd gan y gymuned chwarae gemau a’r boblogaeth ehangach.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Andrew Lamb, Cydlynydd ac Ymchwilydd y prosiect, yn siarad yn y gynhadledd ac yn edrych ar faterion yn ymwneud â’r modd y portreadir y gorffennol. Mae teitl ei bapur yn dweud y cyfan ... ‘Paid â’i symleiddio, mae manylder hanesyddol yn hwyl: Trafod y Prosiect Europa Barbarorum a’i effaith ar y gymuned chwarae gemau’.

Gwefan: http://www.europabarbarorum.com/
Twitter: @EBTeam

Gorffennol Digidol 2015
Manylion Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd

wedi’i threfnu gan: +Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 22 January 2015

DigVentures yn dod i Gorffennol Digidol 2015







Wedi’i sefydlu yn 2011, menter gymdeithasol arloesol yw DigVentures sy’n llunio, yn datblygu ac yn cyflwyno prosiectau archaeoleg gymunedol drwy’r DU a thu hwnt. Un o’r prosiectau hyn oedd Flag Fen Lives, y cloddiad archaeolegol wedi’i gyllido a’i gyrchu’n dorfol cyntaf yn y byd, ac yn ddiweddar maent hwy wedi lansio DigStarter, yr unig blatfform cyllido a chyrchu torfol yn y byd sydd wedi ymroi i helpu prosiectau archaeoleg a threftadaeth i roi cynlluniau cynaliadwy ar waith, meithrin cymunedau, a chodi proffil ac arian.

Bydd Brendon Wilkins, Cyfarwyddwr Prosiectau DigVentures yn siarad am hyn oll a mwy. Hollol hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Archaeoleg Gymunedol, Cyllido Torfol, Cyrchu Torfol a dyfodol Ymchwil Archaeolegol.

Website: http://digventures.com/
+DigVentures

Gorffennol Digidol 2015
Manylion Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday 21 January 2015

Prosiect Cymorth Torfol Llŷn yng nghynhadledd Gorffennol Digidol







Bydd prosiect digidol arloesol o eiddo Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn yn cael sylw yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015. Sefydlwyd y gymdeithas yn 2013 a’i nod yw dod yn fodel ar gyfer rhith gymdeithasau, sef cymdeithasau sy’n cyfuno gwerthoedd traddodiadol cymdeithasau sirol â thechnolegau newydd, ac sy’n canolbwyntio ar ddenu cynulleidfaoedd ehangach.

Bydd Simon Jones a Jamie Davies yn siarad am brosiect cymorth torfol cyffrous yr ymgymerwyd ag ef yn 2014 i nodi hanner canmlwyddiant cyhoeddi Caernarvonshire: West III: An inventory of the Ancient Monuments in the County gan y Comisiwn Brenhinol.  Mae gwefan sy’n seiliedig ar y cyhoeddiad wedi cael ei datblygu sy’n gartref i gofnodion safle, cynlluniau a nodiadau wedi’u digido gwreiddiol y gall trigolion neu ymwelwyr ychwanegu sylwadau atynt. Gallant hefyd lwytho ffotograffau i fyny i’r wefan i roi darlun cyfoes o dreftadaeth archaeolegol ac adeiledig y Penrhyn.

Facebook: http://cy-gb.facebook.com/archllyn
Gwefan: http://www.crwydro.co.uk/aberdaron
eLyfr: Caernarvonshire: West III: An Inventory of the Ancient Monuments in the County

Gorffennol Digidol 2015
Manylion Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin