Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 27 January 2015

Penodi Ysgrifennydd newydd y Comisiwn Brenhinol: Christopher Catling, MA, FSA






Mae’n bleser gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyhoeddi mai ei Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) newydd fydd Christopher Catling, MA, FSA.

Mae Chris yn ŵr cyfarwydd fel newyddiadurwr, awdur ac ymgynghorydd ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol. Ef yw golygydd Salon, newyddlen ar-lein ac uchel ei pharch Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, a bydd yn cyfrannu’n rheolaidd i Current Archaeology a Country Life. Ef yw Cyfarwyddwr Cronfa Marc Fitch sy’n rheoli buddsoddiadau o £7m ac yn rhoi grantiau o £200,000 y flwyddyn i gynorthwyo ymchwil a chyhoeddi academaidd ym meysydd hanes, archaeoleg a hanes celf.

Mae’n eistedd ar amryw o fyrddau a chyrff ymgynghorol, gan gynnwys Cotswold Archaeology (y mae’n Is-Gadeirydd arno), Gwobrau Archaeolegol Prydain a Phwyllgor Ymgynghorol Esgobaeth Caerloyw. Yn 2000, helpodd i sefydlu Grŵp Pob-Plaid y Senedd ar Archaeoleg i gynyddu amlygrwydd proffil archaeoleg yn nau Dŷ’r Senedd, ac yn 2002 fe sefydlodd Heritage Link (yr Heritage Alliance bellach), cyfansoddiad y corff hwnnw, ei aelodaeth, ei sylfaen ariannu a’i newyddlen Heritage Update.

Mae Chris yn awdur amryw o ganllawiau teithio sydd wedi gwerthu’n dda, gan gynnwys yr Eyewitness Guide to Venice and the Veneto a’r Eyewitness Guide to Florence and Tuscany, ac A Practical Handbook of Archaeology: a beginner's guide to unearthing the past. Ar sail ei ymchwil fel ymgynghorydd, mae ef wedi llunio amryw byd o gynlluniau rheoli cadwraeth i gyrff fel English Heritage a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau eraill, gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer Castell Dover, Castell Leeds a Knole sydd wedi ategu ceisiadau llwyddiannus i’r HLF a chyrff eraill yn ddiweddar.

Meddai Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, Dr Eurwyn Wiliam, ‘Rydw i’n falch dros ben o groesawu Chris yn Ysgrifennydd newydd atom. Mae ganddo record ragorol o amlygu gwerth cymdeithasol ac economaidd ein treftadaeth ac o ddarbwyllo eraill y dylen nhw ddeall a gofalu am ein gorffennol yn fwy effeithiol. Wrth groesawu Chris, hoffwn hefyd roi teyrnged i waith dygn Mrs Hilary Malaws a fu’n barod iawn i ohirio’i hymddeoliad a bod yn Ysgrifennydd Gweithredol dros y flwyddyn ddiwethaf.’


Ar ôl ei ymweliad diweddar â’r Comisiwn, dywedodd Chris

“Anrhydedd mawr yw cael ymgymryd â’r rôl hon ac rwy’n ffodus fy mod i’n ymuno â thîm mor alluog ac amryddawn. Mae ymchwil y Comisiwn yn ddiweddar i ddiwydiant llechi Cymru, capeli anghydffurfiol, archaeoleg uwchdiroedd Cymru a’r dreftadaeth arforol yn enghreifftiau o brosiectau pwysig sy’n esgor ar sylfaen o wybodaeth a fydd yn sail i benderfyniadau hollbwysig ynghylch dyfodol ein gorffennol. Yna, bydd ffrwyth yr ymchwil honno ar gael i bobl Cymru drwy gyfrwng llyfrau, arddangosfeydd, darlithiau a chronfa ddata ar-lein Coflein a thrwy’r casgliadau rhagorol sydd i’w cael yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth.”

“Gan ein bod ni’n gwybod bod llu o bobl yng Nghymru yn teimlo’r un mor angerddol â ni am ein treftadaeth, bwriadwn ddod o hyd i ffyrdd i gynnwys rhagor o bobl yn ein gwaith. Eisoes, mae’r Comisiwn wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr i redeg prosiect llwyddiannus iawn ar dai canoloesol yn Eryri. Ein gobaith yw adeiladu ar hynny i ddatblygu ‘gwyddor dinasyddion’ effeithiol, a systemau gwirfoddoli, gyda’r rhyw 700 o grwpiau treftadaeth sydd yng Nghymru. Yr her at y dyfodol, ac un rwy’n edrych ymlaen ati, yw sicrhau y caiff pawb gyfle i gymryd rhan yn y gwaith buddiol a phleserus o ymchwilio i dreftadaeth arbennig Cymru, ei chofnodi a’i deall.”

Bydd Christopher Catling yn ymgymryd â’i swydd ar 2 Mawrth 2015


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin