Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 14 January 2015

Technolegau Newydd ym meysydd Treftadaeth, Dehongli ac Estyn-Allan: Gorffennol Digidol 2015





Dyddiad y digwyddiad: 11-12 Chwefror 2015
Lleoliad: Neudd Brangwyn, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Trefnwyd gan: Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Bydd cynhadledd Gorffennol Digidol eleni yn cael ei chynnal yn lleoliad ysblennydd Neuadd y Ddinas Abertawe a gynlluniwyd gan Percy Thomas o Gaerdydd. Mae gan yr adeilad rhestredig gradd 1 hwn bedwar bloc gyda wynebau o garreg Portland wen sydd wedi’u trefnu o amgylch cwrt canolog. Ceir yma y Llysoedd Barn, Siambr y Cyngor, Neuadd Brangwyn ac ystafelloedd seremonïol. Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Ddinas ym 1930 ac agorodd ar 23 Hydref 1934. Gyda chwblhau’r adeiladu fe wireddwyd breuddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe i wneud datganiad pensaernïol grymus am ei hunaniaeth ddinesig. Mae Neuadd y Ddinas yn amlygu symlrwydd a harddwch moderniaeth ond gwelir hefyd nodweddion addurnol sy’n cysylltu’r adeilad ag Abertawe, yn enwedig manylion dylunio tŵr y cloc ac addurniadau mewnol sy’n dwyn i gof darddiad Llychlynnaidd Abertawe.

Aerofilms photo of the newly-built Swansea Guildhall in 1935: the venue of the Royal Commission’s Digital Past 2015 conference.

Enwyd Neuadd Brangwyn ar ôl yr arlunydd Frank Brangwyn. Ystafell ymgynnull yw hi gyda seddau ar gyfer hyd at 1,300 o bobl. Ei nodweddion amlycaf yw’r ddau furlun ar bymtheg a baentiwyd gan yr arlunydd, a gomisiynwyd ym 1924 i gofio am y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr enw a roddir ar y paentiadau hynod liwgar hyn yw Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig, a chawsant eu creu’n wreiddiol ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi. Yng ngeiriau Brangwyn, maent hwy’n “banorama o brydferthwch Prydain Fwy ... [sy’n dangos] yr hyn y bu Lluoedd yr Ymerodraeth yn ymladd drosto.” Ond, ar ôl i’r pum panel cyntaf gael eu harddangos ym 1930, cawsant eu gwrthod gan Dŷ’r Arglwyddi. Ond ni ddigalonnodd Brangwyn, a chwblhaodd y gyfres ym 1932, ac ar ôl eu harddangos yn yr Arddangosfa Cartrefi Delfrydol fe’u prynwyd ar gyfer y Neuadd y Ddinas newydd, lle gall y cyhoedd eu gweld heddiw.

Themâu cynhadledd Gorffennol Digidol eleni yw Treftadaeth Weledol ac Archaeoleg Gyhoeddus a Chymunedol Ddigidol. Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau seminar, a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu cyfnewid syniadau a hwyluso rhwydweithio.

Bydd stondinau arddangosfa a phoster yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion, datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.

Cost y gynhadledd ddau ddiwrnod, 11-12 Chwefror 2015, yw £69 yn unig (mae hyn yn cynnwys lluniaeth yn y bore a’r prynhawn a chiniawau canol dydd). Bydd cinio cynhadledd tri chwrs yn cael ei gynnal yn Neuadd Dderbyn yr Arglwydd Faer ar 11 Chwefror, a bydd yn costio £30.

Gwahoddir noddwyr ar gyfer y digwyddiad. Mae nifer o becynnau ar gael i gyd-fynd â’ch cyllideb, sy’n cynnig nifer o fuddion megis brandio logo, hysbysebu, a’r gallu i arddangos prosiectau a chynhyrchion yn ystod y digwyddiad. Mae stondinau ar gael hefyd: cost stondin arddangosfa am y ddau ddiwrnod yw £100, a chost stondin poster hanner y maint yw £50.

Os ydych chi’n awyddus i noddi unrhyw agwedd ar y gynhadledd, neu os hoffech arddangos neu hysbysebu yno, peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni i drafod y dewisiadau gyda’n staff.

I gael gwybodaeth am y gynhadledd ewch i: http://gorffennoldigidol2015.blogspot.co.uk
I gofrestru ewch i: http://www.eventbrite.co.uk
Dilynwch #gorffennoldigidol2015

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gynhadledd Gorffennol Digidol 2015!


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin