Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 20 January 2015

Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf





Bydd yr Athro Chris Williams, Pennaeth Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 ar Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf, adnodd ar y we sy’n dwyn ynghyd holl gartwnau papur newydd Joseph Morewood Staniforth o adeg y rhyfel a ymddangosodd gyntaf yn y papur Sul Prydeinig y News of the World a phapur dyddiol Caerdydd, y Western Mail. Mae mwy na 1300 o’i gartwnau’n dilyn hynt a helynt y rhyfel ac yn dangos sut y bu i un o artistiaid gweledol mwyaf poblogaidd y cyfnod bortreadu’r gyflafan. Ceir nodiadau eglurhaol ar bob cartŵn a gwahoddir y defnyddiwr i gynnig sylwadau ar y ddelwedd a’i hystyron posibl. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau ategol sydd o gymorth i roi’r cartwnydd, ei waith, a’r papurau newydd a’u cyhoeddodd yn eu cyd-destun.



Un tro, cafodd crwban distadl ei herio gan ysgyfarnog hunandybus i redeg ras, a derbyniodd yr her. Buasai’r ysgyfarnog yn hyfforddi am amser maith, a llamodd ymlaen yn llawn hyder a mynd ymhell ar y blaen i’r crwban. Ond ni fu i’r crwban ddigalonni; daliodd ati yn ddyfal, gan fagu cryfder a chyflymder wrth i amser fynd heibio, tra dechreuodd yr ysgyfarnog ballu a blino ar yr ornest. Nid yw’r ras ar ben eto, ond y crwban sydd fwyaf tebygol o ennill.

Prosiect wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwefan: http://www.cartoonww1.org/index.htm

Gorffennol Digidol 2015
Manylion Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin