Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 27 March 2013

Swydd Wag - Swyddog Mapio





Dyddiad Cau: 19 Ebrill 2013
Cyflog: £20,100 y flwyddyn.
Lleoliad: Aberystwyth
Hyd y cytundeb: 10 mis


Disgrifiad o'r Swydd:
37 awr yr wythnos Penodiad tymor-sefydlog tan 31.3.14 Band Cyflog C £20,100 - £25,200 y flwyddyn (Penodir ar neu yn ymyl gwaelod y band cyflog fel rheol) O’i chanolfan yn Aberystwyth, y Comisiwn Brenhinol yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am arolygu, cofnodi, cyhoeddi a chynnal cronfa ddata o safleoedd, adeiladweithiau a thirweddau hynafol, hanesyddol ac arforol yng Nghymru. Bwriadwn recriwtio Swyddog Mapio a fydd yn helpu i gynnal a datblygu’n systemau Gwybodaeth Ddaearyddol mewnol ac allanol, datblygu mentrau ar-lein, gan gynnwys prosiectau o dan Linyn Arloesi Casgliad y Werin Cymru, mapio nodweddion archaeolegol o awyrluniau. Bydd gennych chi brofiad helaeth o systemau gwybodaeth ddaearyddol a/neu gymwysterau proffesiynol neu academaidd priodol ynddynt, a byddwch chi’n gallu adnabod ffyrdd arloesol o wella cyflwyno’r gwasanaeth ar-lein ac adnabod a mapio nodweddion archaeolegol ar awyrluniau. Y dyddiad cau i geisiadau yw 19eg Ebrill 2013.

I gael holl fanylion y swydd hon, ewch i: Swyddi Gwag
Y dyddiad cau i geisiadau: 19/04/2013.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday 26 March 2013

Archaeoleg yr Ucheldiroedd






Ysgol undydd wedi’i threfnu gan y Comisiwn Brenhinol, Parc Cenedlaethol Eryri ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Plas Tan y Bwlch, Dydd Gwener, 10 Mai 2013

09:45  Dod ynghyd ar gyfer coffi
10.15  Croeso - John Griffith Roberts (Archaeolegydd, Parc Cenedlaethol Eryri)
Cyflwyniad gan y Cynghorydd Caerwyn Roberts OBE, Cadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
10.30  Anerchiad agoriadol: Brenhinoedd, arglwyddi, tir comin a chominwyr - David Gwyn (Govannon Consultancy)
11.00 GWAITH DIWEDDAR AR ARCHAEOLEG YR UWCHDIROEDD YNG NGHYMRU
Cyflwyniad i Fenter Archaeoleg yr Uwchdiroedd - Henry Owen-John (Is-gadeirydd, CBHC)
Cadeirydd: Henry Owen John
11.10     Arolygon diweddar yn Sir Feirionnydd - Richard Hayman (Hayman & Horton)
11.30    Uwchdiroedd dwyrain Morgannwg - Paul Sambrook (Trysor)
11.50    Mynyddoedd de-orllewinol Uwchdiroedd Cymru - Jenny Hall (Trysor)
12.10    Uwchdiroedd Cwm Prysor - Tudur Davies (ArcHeritage)
12.30     Cinio a thrafod â’r siaradwyr
13:30  ARCHAEOLEG YN YR UWCHDIROEDD
Cadeirydd: John Griffith Roberts
13.30    Ffyrdd Rhufeinig yn Eryri - David Hopewell (YAG)
13.55    Arolygu a Chyflwyno’r Diwydiant Llechi - Louise Barker (CBHC)
14:20    Gwaith diweddar yn Ninas Emrys - Kathy Laws (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
14:45    Te/coffi
15:15    Rhyngweithio rhwng dyn a’r amgylchedd yn Eryri yn y gorffennol: stori o’r cofnod palaeo-amgylcheddol - Tim Mighall (Prifysgol Aberdeen)
15:45    Cadwyni Bronaber - Bob Johnston (Prifysgol Sheffield)
16:15    Bywydau yn y dirwedd: archaeoleg gymhleth bryniau Gwynedd oddi fry - Toby Driver (CBHC).
16:45     Yr ysgol undydd yn dod i ben

I gofrestru, byddwch cystal â chysylltu â David Leighton ar 01970-621204 neu yn david.leighton@rcahmw.gov.uk. Cost yr ysgol undydd yw £10.00, sy'n cynnwys cinio os archebwch ymlaen llaw: talwch â’ch cerdyn credyd wrth gofrestru.

Sylwer: bydd yr ysgol undydd yn cael ei chynnal yn ddwyieithog a darperir cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.

Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RSS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 21 March 2013

Chocks Away! Take Off with Britain from Above!






On Saturday 2nd March, Britain from Above held its first BBC Big Screen event in Swindon’s city centre to launch the second phase of Virtual Volunteering as part of the Britain from Above project. For three hours we took over the big screen showing aerial images of Swindon from the 1920s and a promotional film from Aerofilms, which was produced to showcase their working methods. It was all very exciting with plenty of shots of the planes soaring through the clouds on their way to record yet another fascinating view. The film was ground breaking when it was first shown to a public for whom the Charleston was the latest dance craze, however, on Saturday, it captured the attention of the Harlem Shake generation just as keenly!

People stopped throughout the afternoon, taking a seat to watch the rolling images and films, then most came to ask us about the project and take a closer look at the website, which we had set up on one of the stalls.

As well as iPads and a monitor to show the Britain from Above website, we let people discover how their own local areas used to look (www.britainfromabove.org.uk). we also had jigsaws to complete of various iconic images of Britain, a cut-away photoboard that lets you be the pilot for a photograph, and we also ran a paper plane competition with the chance to win an aviator teddy bear!



The paper planes proved very popular with children and adults, and even lured out the teenagers! We had four official competitions throughout the day, where the winner was decided by the plane that had flown the furthest, but everyone was welcome to join in, have a go at making and decorating a plane, and launching it from the runway line!

It was a successful, if cold, day in Swindon that helped raise the profile of the project to new audiences, who are now keen to have a go on the website themselves from the comfort of their own warm homes!

The project is running until 2014 and currently has over 25,000 images uploaded and available for everyone to view. Registering a free profile on the website allows you even more freedom to take part in the project: zoom in on images; share your stories; tag photos with place names to help us identify unlocated images; and join groups to talk to other people with the same interests. The collection is updated every few months; by the end of the project we will have all 95,000 images from the Aerofilms collection (1919-1953) uploaded for everyone to find out more about the changing face of Britain in the early 20th century.

By Natasha Scullion, Activity Officer (Wales) – Britain from the Above Project.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday 20 March 2013

People’s Collection Wales at International Women’s Day Event, Penparcau





Helen Rowe and Hazel Thomas demonstrate the People’s Collection Wales website.
On International Women’s Day (Friday 8th March) Royal Commission and National Library of Wales staff members teamed up to present a workshop on how to get the most from People’s Collection Wales. This was part of a day of free women’s workshops at Penparcau, organised by Aberystwyth University to celebrate International Women’s Day.

The workshop included an introduction to People’s Collection by Royal Commission staff member, Helen Rowe. Helen gave a fascinating insight into the variety of material already added to the collection, both by organisations and individuals. She highlighted the significance of everyday photographs, which illustrate numerous aspects of social life in Wales throughout the twentieth century and into the present day. Helen made particular reference to family photographs, which are often undervalued, being stored away at home in cupboards or attics. In addition to recording family life, such photographs are also an important record of contemporary clothing, décor, buildings, farming methods, landscapes and many other aspects of life. It is often women who are the keepers of these treasure troves of historical information, all of which contribute to the story of Wales. Photographs and other documents deteriorate with time, and Helen urged anyone who has such items to endeavour to digitise them and upload them to People’s Collection, so that they can be preserved and shared as part of the social history of Wales.

National Library of Wales staff member, Hazel Thomas, then explained the different aspects of the People’s Collection Wales website and introduced participants to the practicalities of using it. Participants then had the chance to try out the website for themselves.

By Nikki Vousden

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday 19 March 2013

Dod O Hyd I Lyfr Cargo Ar Gyfer Llongddrylliad Enwocaf Cymru





Mae’n ymddangos bod casgenni mawr neu jerkins o ymenyn yn cael eu cludo’n rheolaidd i’w gwerthu yn Awstralia ar y Royal Charter a’r Great Britain – Amgueddfa Arforol Glannau Mersi, Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl.

Yn ystod misoedd y gaeaf, bu’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda Cadw a Chasgliad y Werin Cymru i ddatblygu adnodd addysgol yn ymdrin â llongddrylliad y Royal Charter oddi ar arfordir Môn. Atseiniodd trychineb noson y 25-26ain o Hydref 1859 ar draws Prydain, ac yna ar draws y byd wrth i’r newyddion gyrraedd Melbourne, Awstralia, o le’r oedd y llong yn dychwelyd gyda rhyw 450 o deithwyr a chriw ar ei bwrdd.

‘Hyd yn oed heddiw, does neb yn sicr faint o bobl oedd ar y llong, ond dim ond 17 o bobl a oroesodd yn ôl papurau newydd y dydd,’ meddai Deanna Groom, Swyddog Arforol y Comisiwn Brenhinol. ‘Rydyn ni wedi bod yn chwilio am ddeunydd archifol gwreiddiol yn ymwneud â’r llongddrylliad ac yn ei roi ar ffurf ddigidol i athrawon a myfyrwyr ei ddefnyddio ar gyfer gwaith prosiect. Rydyn ni wedi gwneud y ddau ddarganfyddiad mwyaf diddorol hyd yma yn Archifdy Caer ac yn Amgueddfa Arforol Glannau Mersi. Daeth cydweithwyr caredig yn Archifdy Caer o hyd i gasgliad o bapurau’n ymwneud ag adeiladydd y llong, George Cram. Mae’r rhain yn cynnwys rhestr gyflawn o’r holl offer a pheiriannau oedd yn cael eu defnyddio yng Ngwaith Haearn Sandycroft ar Foryd Afon Dyfrdwy pan oedd y gwaith ar y llong yn dechrau. Daeth staff Amgueddfa Arforol Glannau Mersi o hyd i lyfr cargo o eiddo Gibbs Bright & Co sy’n cofnodi bod hyrddod Cotswold yn cael eu hanfon i Awstralia i wella’r stoc fridio. Ar un o’r tudalennau, o dan gofnod ar gyfer y Royal Charter, mae cofnod ar gyfer agerlong Brunel, y Great Britain, sydd wedi cael ei diogelu ym Mryste. Roedd y Great Britain hefyd yn rhan o lynges y Liverpool and Australia Navigation Company.’

Bu Steve Donnachie, myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe sydd ar leoliad yn y Comisiwn Brenhinol, yn chwilio am ddeunydd a’i lwytho i wefan Casgliad y Werin Cymru.

‘Roedd yn un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes llongau teithwyr Prydain, a gafaelodd y colledion enbyd yn nychymyg y wasg Brydeinig. Mae wedi bod yn brofiad anghyffredin i mi – rydw i wedi gorfod mynd i’r afael â meysydd hanes hollol newydd. Fy maes astudio arferol yw Môr y Canoldir yn yr Oesoedd Canol, ac mae pynciau fel llongau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladu llongau ar Afon Dyfrdwy, a mudo i Awstralia yn wahanol iawn i hyn. Mae cael cyfle i ddianc rhag y cyfarwydd ac ymchwilio i rywbeth newydd, yn ogystal â defnyddio’r sgiliau a ddysges yn y brifysgol i gynhyrchu rhywbeth llwyr ymarferol, wedi bod yn hynod o fuddiol.’


Mae’r rhestr sy’n nodi diwedd breuddwyd George Cram i sefydlu menter adeiladu llongau yn arbennig o drist, gan ei bod hi’n gwneud yn glir mai’r unig beth y bydd ei gredydwyr yn gadael iddo eu cadw yw’r dillad y mae ef a’i deulu’n berchen arnynt – Archifdy Caer.

Mae’r adnoddau wedi cael eu cyflwyno eisoes i dair ysgol ar Ynys Môn gan Erin Robinson, Rheolwr Dysgu Gydol Oes Cadw yng Ngogledd Cymru. Mae’r plant wedi mynd i fynwent Llanallgo i gofnodi’r cerrig beddau. Maent hwy hefyd wedi cynhyrchu gweithiau celf wedi’u seilio ar y ffenomen dywydd – a dyma’r agwedd ar y stori sydd wedi ennyn chwilfrydedd Helen Rowe, o dîm Casgliad y Werin Cymru:

‘Mae gwyddonwyr yn parhau i ddadlau am effaith gweithgaredd yr haul ar ein tywydd, ond ychydig cyn y dymestl a suddodd y Royal Charter roedd seryddwyr wedi sôn am storm solar fawr. Yr un pryd â’r corwynt a darodd Brydain, roedd stormydd yn achosi difrod mawr ar hyd arfordir dwyreiniol America. Roedd ffenomenau rhyfedd eraill hefyd, er enghraifft, yn ei chrynodeb o’r tywydd ar gyfer mis Hydref 1859, a adroddwyd yn y Caernarvon and Denbigh Herald, mae Arsyllfa Dywydd Llandudno yn nodi i’r aura borealis gael ei weld. Rhaid bod hyn yn eithaf anarferol ar gyfer ein lledred ni? Fe fyddwn ni’n dal i edrych ar y rhan yma o’r stori yn ystod y misoedd i ddod wrth i Brosiect Llongddrylliadau Storm Fawr y Royal Charter ehangu i gynnwys rhagor o’r llongau a gollwyd ar hyd arfordir Cymru yn ystod y corwynt. Bydd cynllun Llyfrgell Genedlaethol Cymru i roi mwy o bapurau newydd Cymreig ar-lein (gwasanaeth a lansiwyd ar 13 Mawrth) o gymorth mawr yn y cyswllt yma.’

Gall casgliad ‘Storm Fawr 1859’ Casgliad y Werin Cymru gael ei gyrchu drwy’r cyswllt hwn (parheir i olygu ac ychwanegu at y casgliad):
http://www.casgliadywerincymru.co.uk/Collection/1515-the-great-storm-of-1859

Hoffem ddiolch yn arbennig i’n cydweithwyr yn Cadw (yn enwedig Caroline Pudney a Polly Groom); y rhwydwaith o archifdai sirol – Môn, Ceredigion, Caer, Gwynedd a Sir Benfro; y tîm Archifau yn Amgueddfa Arforol Glannau Mersi, Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl; y Swyddfa Dywydd; a Chymdeithas Hanes Dwyrain Melbourne yn Awstralia.



Un o sawl carreg fedd sy’n gysylltiedig â Llongddrylliad y Royal Charter yn Eglwys Llanallgo – dyma deyrnged a osodwyd gan ddisgynyddion y rhai a gollwyd.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday 15 March 2013

Cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig







Bob blwyddyn, bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (http://www.whsi.org.uk/) yn gwahodd ysgolion o bob cwr o Gymru i gynnig prosiectau treftadaeth ar gyfer ei gystadleuaeth genedlaethol. Mae’r gair “treftadaeth” yn cael ei ddehongli yn yr ystyr ehangaf posibl, ac yn cynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant, byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, y celfyddydau a chwaraeon. Gall y prosiectau hyn fod yn rhan o waith arferol y cwricwlwm sy’n cael ei wneud o fewn yr amserlen, neu gallant adlewyrchu gwaith a wneir gan yr ysgol i goffáu digwyddiad, person neu adeilad lleol.

Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef archif y Comisiwn Brenhinol, ar gael yn ddi-dâl i’r cyhoedd. Ceir ynddo bron dwy filiwn o ffotograffau a hanner miliwn o dudalennau o destun ac mae’n cynnig gwybodaeth ar lu o safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys: Ysgolion, Tai, Eglwysi, Capeli, Adeiladau fferm, Cylchoedd cerrig, Bryngaerau, Llociau, Safleoedd Rhufeinig, Cestyll, Myntiau, Camlesi, Rheilffyrdd, Gweithfeydd haearn, Pyllau glo, Melinau, Goleudai, Gerddi, Llongddrylliadau, Plastai, Carneddau a mwy. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd ac mae’r posibiliadau’n fawr. Gellir cyrchu llawer o’r wybodaeth hon ar Coflein, ein cronfa ddata ar-lein. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’n tîm ymholiadau: chc.cymru@cbhc.org.uk, ffôn: 01970 621200.

Rhai gwefannau defnyddiol eraill:
Casgliad y Werin Cymru http://www.casgliadywerincymru.co.uk/
Prydain Oddi Fry http://www.britainfromabove.org.uk/

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 14 March 2013

Peter Smith, hanesydd pensaernïol, 1926–2013






Bu farw Peter Smith, hanesydd pensaernïol, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 1973–1991, ar 12 Mawrth 2013 mewn cartref nyrsio yn Nyfnaint.  Mae’n gadael gweddw, Joyce, a thri phlentyn.
 
Bu farw Peter Smith FSA, hanesydd pensaernïol ac awdur y clasur, Houses of the Welsh Countryside, ar 12 Mawrth 2013 mewn cartref nyrsio.  Cafodd ei eni ym 1926 yn Winlaton-on-Tyne, Swydd Durham, yn fab i arolygydd ysgolion (A.E.M.), ac wrth i’r teulu symud o le i le daeth i werthfawrogi natur amrywiol gwledydd Prydain yn gynnar yn ei oes ond ni chollodd byth acen ei blentyndod.

Ar ôl mynd i Rydychen, lle y bu’n astudio Hanes Modern, cafodd yrfa fer fel Pennaeth Cynorthwyol yn y Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn Whitehall.Ond oherwydd ei ddiddordeb byw mewn adeiladau hanesyddol, penderfynodd astudio ar gyfer arholiad canolradd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (R.I.B.A.). Ym 1949 fe’i penodwyd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, un o nifer bach o Gomisiynau Brenhinol sefydlog, a dechreuodd ei astudiaeth broffesiynol faith o hynafiaethau Cymru.  Yng Nghymru, hefyd, y byddai’n cael gwraig, Joyce, yn magu teulu, ac yn dysgu iaith newydd.

Bryd hynny byddai holl staff y Comisiwn – yr Ysgrifennydd a’r pedwar ymchwilydd – yn gweithio ar henebion o bob cyfnod.  Ond, dan ddylanwad Cyril Fox, magodd Peter Smith frwdfrydedd dros ddehongli ffermdai hanesyddol, a dengys ei gyfraniad i’r Caernarvonshire Inventory ei fod yn arloeswr mewn maes newydd – pensaernïaeth werinol.  Byddai Peter yn dod yn un o aelodau cynnar y Grŵp Pensaernïaeth Werinol a bu’n Llywydd arno.

Ar ôl cwblhau’r astudiaeth o Sir Gaernarfon, bu Peter yn ymchwilio i dai cerrig Morgannwg ac yn cofnodi tai yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru hefyd.  Daeth cyfle i wneud astudiaeth gyffredinol o bensaernïaeth Cymru gyda throsglwyddo’r Cofnod Adeiladau Cenedlaethol ym 1963, pan gafodd Peter ei symud o’r dasg o lunio rhestrau i waith cofnodi argyfwng ar adeiladau dan fygythiad ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys tai wedi’u hadeiladu o goed.

Cafodd syniadau cychwynnol Peter Smith ar ddatblygiad pensaernïaeth werinol eu cyhoeddi ym 1967 mewn pennod ar ‘Rural Housing in Wales’ yn The Agrarian History of England and Wales, 1500-1640, ac yna fe’u datblygwyd yn astudiaeth gyflawn ryfeddol a oedd yn cynnwys mapiau dosbarthiad a lluniadau ail-greu gwreiddiol.  Cyhoeddwyd Houses of the Welsh Countryside gan y Comisiwn Brenhinol ym 1975, a dyma ei gyfrol thematig gyntaf.  Dyfarnwyd Medaliwn Alice Davis Hitchcock i’r llyfr gan Gymdeithas yr Haneswyr Pensaernïol, a derbyniodd lu o adolygiadau canmoliaethus a oedd yn cydnabod ei wreiddioldeb.

Cafodd Peter Smith ei benodi’n Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ym 1973 (roedd wrth ei fodd gyda’r teitl hen ffasiwn Ysgrifennydd, a barai ddryswch i rai) ac yn dilyn hyn cafodd llif cyson o gyfrolau Inventory eu cyhoeddi ynghyd â sawl llyfr thematig, yr oeddynt oll yn nodedig am eu hysgolheictod a hefyd am eu darluniau eglurhaol o ansawdd gwych, gan gynnwys lluniadau rhandoredig uchel eu clod.

Yn ystod ei ymddeoliad, daliodd Peter Smith ati i ymchwilio ac ysgrifennu, gan fyfyrio ar gyd-destun Ewropeaidd pensaernïaeth werinol Cymru a Lloegr.  Yn 2010, fe gyflwynwyd cenhedlaeth newydd i themâu Houses of the Welsh Countryside gan gyfres deledu Gymraeg a gomisiynwyd gan S4C.  Yn y llyfr dwyieithog a oedd yn cyd-fynd â’r gyfres, Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru: Discovering Houses of the Welsh Countryside (2010), mae Peter yn trafod rhai o’r tai yr oedd wedi helpu i’w hachub.  Cyhoeddiad olaf Peter oedd hwn ac roedd yn ddiweddglo priodol i’w ymwneud hirfaith agadeiladau hanesyddol Cymru, sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar ein dealltwriaeth ni heddiw o bensaernïaeth werinol.


 
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday 12 March 2013

Dendrochronology; The Method Of Dating Using Tree Rings





Abingdon Abbey, Berkshire, roof truss with pomegranate decoration on the infill.

For anyone that has seen our Twitter account, @RC_Survey, you may have picked up on #IfABursary that I have been using when out and about surveying or, in this case, when I was invited to the Oxford Dendrochronology Laboratory by Dr Dan Miles and Dr Martin Bridge. Over the last few months I have been fortunate enough to have spent time with Dan and Martin on fieldwork in Wales taking core samples, so the invite to see the next part of the process could not be missed. Having found their lab, hidden in the Oxfordshire countryside, the experience I gained was invaluable in understanding how each sample is prepared, measured, and then compared against their extensive database to produce a date or date range. Meticulous attention to detail was needed at all times, as missing a single tree ring or taking an incorrect measurement could potentially produce an inaccurate result and throw the date out by years, if not centuries. The following day I attended the Oxford Dendro Lab’s lecture and practical with the students from Oxford University’s MSc in Archaeological Science. Dan and Martin gave a very interesting lecture, with examples of how dendrochronology works and where the technique has been used to provide a definite date where dates have been disputed. This was followed by fieldwork taking samples at The Long Gallery, Abingdon Abbey, which the students were to prepare, measure and analyse as part of their course. The two days spent with Dan and Martin was very interesting and I hope to spend more time with them in the future to learn more about the process of tree-ring process.

Abingdon Abbey, Berkshire, exterior of the Long Gallery.

By Ross Cook, IfA/HLF Workplace Learning Bursary in Historic Building Survey and Interpretation.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday 8 March 2013

Y Rhyfel Byd Cyntaf A'r Profiad Cymreig - Pontardawe






Bydd y deunydd yma ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru a dywedodd Carys Morgan, un o swyddogion y prosiect:

‘Mae casglu a rhannu’r eitemau yma, sy’n aml yn bersonol a theimladwy iawn, yn cyfrannu’n fawr at ein dealltwriaeth ni o’r Rhyfel a Chymru’n ystod y cyfnod hwn, ac mae’n ffordd bwysig o goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr. Gallwch gyfrannu i’r prosiect trwy ddod i’r digwyddiadau a chael eich deunydd wedi sganio gan ein staff. Neu, gallant gyfrannu eitemau neu atgofion trwy ymweld â gwefan Casgliad y Werin Cymru, www.casgliadywerincymru.co.uk, os nad ydych yn gallu cyrraedd un o’r digwyddiadau.’

I gyfrannu i’r prosiect, dewch a’ch llythyron, dyddiaduron, tystysgrifau, ffotograffau ac unrhyw gofnod o bwys i’r cyfnod yma, i un o’r digwyddiadau yma rhwng 10yb a 4yh.

12 Mawrth: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe
14 Mawrth: Llyfrgell Aberhonddu
18 Mawrth: Llyfrgell Rhuthun
20 Mawrth: Canolfan Gymunedol Picton, Hwlffordd

Gwybodaeth Bellach: Carys Morgan carysm@culturenetcymru.com neu 01970632500

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 7 March 2013

Cyhoeddiadau Digidol y Comisiwn Brenhinol ar Ddiwrnod Llyfr y Byd







Pam Digido Hen Lyfrau?
Bu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cyhoeddi llyfrau ers dros ganrif, ac yn awr, am y tro cyntaf, mae’r cyfrolau pwysig hyn ar gael ar-lein.  Ymgymerwyd â’r prosiect digido i hybu gwaith cofnodi sylfaenol y Comisiwn Brenhinol, ac i sicrhau bod llyfrau sydd wedi cael eu dyfynnu filoedd o weithiau yn ystod y can mlynedd ddiwethaf, ond sydd bellach ar gael mewn llyfrgelloedd yn unig ac yn uchel iawn eu pris ar y farchnad lyfrau ail-law, o fewn cyrraedd hwylus i’r cyhoedd unwaith eto. Erbyn hyn, gall pob un o’n llyfrau sydd allan o brint gael ei gyrchu drwy ein gwefan a’i weld drwy Google Books. Yn bwysicach fyth, gall y llyfrau a gyhoeddwyd dros hanner can mlynedd yn ôl gael eu lawrlwytho am ddim bellach, tra gall y rheiny a gyhoeddwyd yn ddiweddarach gael eu prynu drwy Google Play.

Ein cyfrol gyntaf oedd yr Inventory neu restr ar gyfer Sir Drefaldwyn, a gyhoeddwyd ym 1911. Mae’n rhestru’r holl henebion a safleoedd o ddiddordeb yn y sir, fesul plwyf. Dilynwyd hon gan gyfrolau ar gyfer Sir y Fflint (1912), Sir Faesyfed (1913), Sir Ddinbych (1914), Sir Gâr (1917), Sir Feirionnydd (1921) a Sir Benfro (1925). Ar ôl cyhoeddi rhestr Sir Benfro, mabwysiadwyd dull mwy archaeolegol drylwyr a dechreuwyd cynhyrchu’r cyfrolau ar eu newydd wedd ym 1937, gyda chyhoeddi’r rhestr ar gyfer Sir Fôn, a dilynwyd hon gan y tair cyfrol ar Sir Gaernarfon (1956-64). Mae’r holl deitlau bellach ar gael i’w lawrlwytho am ddim drwy ein gwefan.

Penderfynwyd rhoi’r gorau i gofnodi fesul plwyf yn y rhestrau diweddarach, ar gyfer Sir Frycheiniog (dwy gyfrol, 1986-97) a Sir Forgannwg (saith cyfrol, 1976-2000), a chafodd y rhain eu trefnu yn ôl thema. Y rhestr brintiedig olaf oedd The Later Castles of Glamorgan a gyhoeddwyd yn 2000. Gellir prynu’r cyfrolau diweddarach hyn am £9.99 neu lai. Mae cofnodion am safleoedd unigol ar gael drwy ein cronfa ddata ar-lein, Coflein.

Houses of the Welsh Countryside (1975) oedd y llyfr thematig cyntaf i gael ei gyhoeddi gan y Comisiwn, ac ar ôl iddo gael ei ailargraffu ym 1988 fe ymddangosodd llawer o gyfrolau llai, gan gynnwys Brecon Forest Tramroads (1990), Lighthouses of Wales (1994), Collieries of Wales (1994) a Copperopolis (2000). Mae’r holl deitlau hyn a llawer mwy bellach ar gael drwy’r siop lyfrau ar ein gwefan am gyn lleied â £1.99.

Gweld: Siop Lyfrau

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin