Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 15 March 2013

Cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig







Bob blwyddyn, bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (http://www.whsi.org.uk/) yn gwahodd ysgolion o bob cwr o Gymru i gynnig prosiectau treftadaeth ar gyfer ei gystadleuaeth genedlaethol. Mae’r gair “treftadaeth” yn cael ei ddehongli yn yr ystyr ehangaf posibl, ac yn cynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant, byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, y celfyddydau a chwaraeon. Gall y prosiectau hyn fod yn rhan o waith arferol y cwricwlwm sy’n cael ei wneud o fewn yr amserlen, neu gallant adlewyrchu gwaith a wneir gan yr ysgol i goffáu digwyddiad, person neu adeilad lleol.

Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef archif y Comisiwn Brenhinol, ar gael yn ddi-dâl i’r cyhoedd. Ceir ynddo bron dwy filiwn o ffotograffau a hanner miliwn o dudalennau o destun ac mae’n cynnig gwybodaeth ar lu o safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys: Ysgolion, Tai, Eglwysi, Capeli, Adeiladau fferm, Cylchoedd cerrig, Bryngaerau, Llociau, Safleoedd Rhufeinig, Cestyll, Myntiau, Camlesi, Rheilffyrdd, Gweithfeydd haearn, Pyllau glo, Melinau, Goleudai, Gerddi, Llongddrylliadau, Plastai, Carneddau a mwy. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd ac mae’r posibiliadau’n fawr. Gellir cyrchu llawer o’r wybodaeth hon ar Coflein, ein cronfa ddata ar-lein. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’n tîm ymholiadau: chc.cymru@cbhc.org.uk, ffôn: 01970 621200.

Rhai gwefannau defnyddiol eraill:
Casgliad y Werin Cymru http://www.casgliadywerincymru.co.uk/
Prydain Oddi Fry http://www.britainfromabove.org.uk/

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin