Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 7 March 2013

Cyhoeddiadau Digidol y Comisiwn Brenhinol ar Ddiwrnod Llyfr y Byd







Pam Digido Hen Lyfrau?
Bu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cyhoeddi llyfrau ers dros ganrif, ac yn awr, am y tro cyntaf, mae’r cyfrolau pwysig hyn ar gael ar-lein.  Ymgymerwyd â’r prosiect digido i hybu gwaith cofnodi sylfaenol y Comisiwn Brenhinol, ac i sicrhau bod llyfrau sydd wedi cael eu dyfynnu filoedd o weithiau yn ystod y can mlynedd ddiwethaf, ond sydd bellach ar gael mewn llyfrgelloedd yn unig ac yn uchel iawn eu pris ar y farchnad lyfrau ail-law, o fewn cyrraedd hwylus i’r cyhoedd unwaith eto. Erbyn hyn, gall pob un o’n llyfrau sydd allan o brint gael ei gyrchu drwy ein gwefan a’i weld drwy Google Books. Yn bwysicach fyth, gall y llyfrau a gyhoeddwyd dros hanner can mlynedd yn ôl gael eu lawrlwytho am ddim bellach, tra gall y rheiny a gyhoeddwyd yn ddiweddarach gael eu prynu drwy Google Play.

Ein cyfrol gyntaf oedd yr Inventory neu restr ar gyfer Sir Drefaldwyn, a gyhoeddwyd ym 1911. Mae’n rhestru’r holl henebion a safleoedd o ddiddordeb yn y sir, fesul plwyf. Dilynwyd hon gan gyfrolau ar gyfer Sir y Fflint (1912), Sir Faesyfed (1913), Sir Ddinbych (1914), Sir Gâr (1917), Sir Feirionnydd (1921) a Sir Benfro (1925). Ar ôl cyhoeddi rhestr Sir Benfro, mabwysiadwyd dull mwy archaeolegol drylwyr a dechreuwyd cynhyrchu’r cyfrolau ar eu newydd wedd ym 1937, gyda chyhoeddi’r rhestr ar gyfer Sir Fôn, a dilynwyd hon gan y tair cyfrol ar Sir Gaernarfon (1956-64). Mae’r holl deitlau bellach ar gael i’w lawrlwytho am ddim drwy ein gwefan.

Penderfynwyd rhoi’r gorau i gofnodi fesul plwyf yn y rhestrau diweddarach, ar gyfer Sir Frycheiniog (dwy gyfrol, 1986-97) a Sir Forgannwg (saith cyfrol, 1976-2000), a chafodd y rhain eu trefnu yn ôl thema. Y rhestr brintiedig olaf oedd The Later Castles of Glamorgan a gyhoeddwyd yn 2000. Gellir prynu’r cyfrolau diweddarach hyn am £9.99 neu lai. Mae cofnodion am safleoedd unigol ar gael drwy ein cronfa ddata ar-lein, Coflein.

Houses of the Welsh Countryside (1975) oedd y llyfr thematig cyntaf i gael ei gyhoeddi gan y Comisiwn, ac ar ôl iddo gael ei ailargraffu ym 1988 fe ymddangosodd llawer o gyfrolau llai, gan gynnwys Brecon Forest Tramroads (1990), Lighthouses of Wales (1994), Collieries of Wales (1994) a Copperopolis (2000). Mae’r holl deitlau hyn a llawer mwy bellach ar gael drwy’r siop lyfrau ar ein gwefan am gyn lleied â £1.99.

Gweld: Siop Lyfrau

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin