Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 27 February 2013

Y Comisiwn Brenhinol ar Grwydr - Dydd Sadwrn 2 Mawrth






Yn ogystal â’r Sgwrs Oriel “Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru” a digwyddiad Casgliad y Werin Cymru a gynhelir yn Amgueddfa Bangor ar 2 Mawrth, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu i ddau ddigwyddiad arall, yng Nghaerfyrddin, ar yr un diwrnod, i gefnogi cyrff treftadaeth eraill. Yn y digwyddiad cyntaf, hanesydd milwrol y Comisiwn, Medwyn Parry, fydd y siaradwr gwadd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed yn Neuadd Sant Pedr, Caerfyrddin, rhwng 10am a 3pm. Teitl ei sgwrs fydd Olion Milwrol o’r Ugeinfed Ganrif yng Nghymru gyda phwyslais ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n siŵr o fod yn achlysur difyr iawn. I gael gwybod mwy, cysylltwch â: Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed.



Yr ail ddigwyddiad ar y diwrnod fydd Diwrnod Archaeoleg Sir Gâr, wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Bydd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ac awdur y cyhoeddiad uchel ei glod, Y Bwthyn Cymreig: The Welsh Cottage, yn rhoi sgwrs awdurdodol ar “Y Bwthyn Cymreig”. Siaradwyr eraill yn y digwyddiad fydd Dr Rod Bale a Cliff Bateman. Cynhelir y digwyddiad rhwng 9.30am a  4.30pm yng Nghanolfan Halliwell, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. I gael gwybod mwy, cysylltwch ag Ed Davies: e.davies@dyfedarchaeology.org.uk; ffôn: 01558 825993.




Bydd staff y Comisiwn Brenhinol wrth law drwy’r dydd i ateb cwestiynau a sgwrsio ag ymwelwyr yn ystod y ddau ddigwyddiad. Mae croeso cynnes i chi ddod i’n stondin lle bydd ein holl gyhoeddiadau ar werth, gan gynnwys ein tri theitl diweddaraf: Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes a Worktown: The Drawings of Falcon Hildred. Bydd disgownt arbennig o 10% ar bob llyfr. Mae’n argoeli bod yn ddiwrnod gwych i bawb, felly dewch i ymuno â ni – ble bynnag y byddwn!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday 25 February 2013

‘Clocwedd’, dyfodol digidol ar gyfer arddangosfa Curaduron Ifanc Amgueddfa Ceredigion





ar wefan Casgliad y Werin Cymru


Ni fu creu dyfodol digidol ar gyfer arddangosfeydd dros dro erioed yn haws! Fel y dangosir gan grŵp o Guraduron Ifanc o Amgueddfa Ceredigion.

Mae Curaduron Ifanc Amgueddfa Ceredigion rhwng pedair ar ddeg a dwy ar bymtheg oed ac yn eu plith mae disgyblion o ysgolion uwchradd lleol sy’n dilyn y Fagloriaeth Gymreig. Bu’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd yn yr Hydref 2012 i greu arddangosfa hwyliog ac arloesol yn oriel yr amgueddfa yn Aberystwyth. Cafodd yr arddangosfa dros dro ei galw’n ‘Clocwedd’ ac roedd yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar hanes Ceredigion drwy lygaid y Curaduron Ifanc. Edrychodd yr arddangosfa ar agweddau ar fywyd trefol dros y degawdau, o ddechrau’r 19eg ganrif hyd heddiw, ac atebodd gwestiynau fel: Pam yr oedd pobl yn dod i'r dref? Beth oeddynt yn ei wisgo? A beth oeddynt yn ei weld a'i glywed yn y dref?

Tra oedd yr arddangosfa yn oriel yr amgueddfa, roedd yr ymwelwyr yn gallu mwynhau detholiad amrywiol o ddelweddau a gwrthrychau, rhai o gasgliad yr amgueddfa a rhai wedi’u creu gan y Curaduron eu hunain. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys montage o ffilm o’r 1970au, ffenestr siop fferyllydd o’r 1920au a ffrog ddydd brydferth o wlân o ganol y 19eg ganrif. Ond fel y pwysleisiwyd yn yr arddangosfa ‘Clocwedd’, ‘nid erys amser i neb’ ac mae newid yn anochel, felly ar 19 Ionawr 2013 bu’n rhaid i’r Curaduron Ifanc dynnu eu harddangosfa i lawr a dechrau ymchwilio i agwedd arall ar gasgliad yr amgueddfa.


Gyda chymorth Anna Evans, swyddog addysg Casgliad y Werin, sy’n gweithio yn swyddfeydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mae gan yr arddangosfa ‘Clocwedd’ ddyfodol digidol bellach. Mae’r Curaduron Ifanc o Amgueddfa Ceredigion yn awr yn trefnu casgliad ar wefan Casgliad y Werin Cymru, gan greu gwaddol digidol ar gyfer eu harddangosfa.

Gallwch weld yr eitem gyntaf a lwythwyd i fyny yn http://www.casgliadywerincymru.co.uk/Item/59783-young-curators-clockwise-exhibition-2012

Cadwch eich llygaid ar agor am gofnodion blog pellach wrth i’r casgliad cyfan gael ei lwytho i fyny i’r wefan.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday 20 February 2013

Dewch i Ddarganfod Prydain Oddi Fry! Caerfyrddin






Dydd Mawrth 12 Mawrth 2013 - 3:30-5:30pm

Adnodd hanesyddol ar-lein newydd sy’n cynnwys awyrluniau godidog o’r cyfnod 1919-1953 yw Prydain Oddi Fry (www.britainfromabove.org.uk), ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i adnabod cannoedd o ddelweddau y mae eu lleoliad yn anhysbys, ac i rannu atgofion a gwybodaeth leol.

Bydd sesiwn ragarweiniol fer yn cael ei chynnal yn:
Canolfan Addysg Gymunedol Caerfyrddin
Heol Ffwrnes
Caerfyrddin SA31 1EU

I’r rheiny sydd â diddordeb mewn darganfod rhagor am y prosiect.
Bydd y sesiwn DDI-DÂL hon yn cynnwys;
• Cyflwyniad byr i’r prosiect
• Archwilio’r wefan (gydag arweiniad os dymunwch)
• Canllaw Sut Mae Gwneud i’w ddefnyddio gartref

Dyma gyfle gwych i chi roi cynnig ar adnodd hanes newydd mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar a chymryd rhan mewn prosiect ymchwil cenedlaethol.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd. I drefnu’ch lle cysylltwch â:
Natasha Scullion, Swyddog Gweithgareddau Prydain Oddi Fry, Cymru.
e-bost: natasha.scullion@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621200 Symudol: 07920296279

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday 19 February 2013

“Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru” Sgwrs Oriel a Digwyddiad Casgliad y Werin Cymru





Mae’r 200 o luniau yn y llyfr hwn wedi’u dewis o archif helaeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac fe ânt â ni i mewn i gartrefi Cymru o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw.

Dydd Sadwrn, 2 Mawrth, fydd y cyfle olaf i weld yr arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Am 2.00 y prynhawn bydd Rachael Barnwell, aelod o staff y Comisiwn Brenhinol a chydawdur y cyhoeddiad llawn lluniau, “Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru”, yn rhoi sgwrs â darluniau ar y pwnc. Cynhelir digwyddiad Casgliad y Werin Cymru hefyd i gyd-fynd â hyn, a gwahoddir y cyhoedd i ddod â’u gwrthrychau, eu ffotograffau a’u storïau eu hunain i dynnu eu llun, eu sganio neu eu recordio, a’u hychwanegu at wefan Casgliad y Werin Cymru. Mae croeso i chi ddod draw i gyfrannu a rhannu eich stori.

I gael rhagor o fanylion ac amserau agor yr amgueddfa, ewch i wefan yr amgueddfa.

Bydd yr arddangosfa yn mynd ar daith i leoliadau eraill yng Nghymru yn 2013. I gael gwybod ble gallwch ei gweld, ewch i’n gwefan.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday 18 February 2013

Taith Feicio Pentrefi Diolchgar 2013





Golwg o’r awyr o un o’r tri  Phentref Diolchgar yng Nghymru, Llanfihangel-y-Creuddyn,
AP_2004_0642   NPRN:33047

Yr haf hwn bydd Medwyn Parry, aelod o staff y Comisiwn Brenhinol, a Dougie Bancroft, ei gyd-reidiwr, yn mynd ar daith foto-beic i ymweld â’r 51 o “Bentrefi Diolchgar” yn y Deyrnas Unedig. Pentrefi yw’r rhain lle nad oes unrhyw gofeb ryfel, gan fod pawb a aeth i ymladd yn y Rhyfel Mawr yn ddigon ffodus i ddod adref yn fyw.

Bydd y daith yn dechrau yn Llanfihangel-y-Creuddyn, ger Aberystwyth, ar 27 Gorffennaf 2013 a bydd yn gorffen yn yr un man naw diwrnod yn ddiweddarach, ar 4 Awst, ar ôl taith o 2,500 o filltiroedd.

Mae tri Phentref Diolchgar yng Nghymru – Llanfihangel-y-Creuddyn yn Sir Aberteifi; Tregolwyn ym Morgannwg; a Herbrandston yn Sir Benfro – lle dychwelodd pawb o’r Ail Ryfel Byd hefyd. Herbrandston yw’r unig bentref “Dwbl Ddiolchgar” yng Nghymru.

Mae Medwyn wedi cael ei synnu gan haelioni mawr dieithriaid llwyr sydd wedi cofleidio’r prosiect â breichiau agored. Y nod yw codi £51,000 i’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Hyd y gŵyr, does neb wedi ymweld â’r holl bentrefi yn ystod un daith.

Mae’r rheiny sy’n byw yn y Pentrefi Diolchgar yn falch iawn o’u statws ac mae Medwyn a Dougie yn bwriadu cyfarfod â’r trigolion – yn enwedig disgynyddion y rheiny a ddychwelodd o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd datganiad gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, yn cefnogi’r daith.

Gellir dod o hyd i fanylion pellach ar y wefan: thankfulvillagesrun.com

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 14 February 2013

Surveying Cottages at Glendalough in Ireland





Glendalough, miners cottages recently surveyed.
At the beginning of February the Metal Links archaeologist, Samantha Jones headed off to Glendalough in Ireland with Louise Barker, Royal Commission investigator. Glendalough, famous for its monastic remains, is also home to a number of mine sites that dot the valley side. The mountains were mined for lead and zinc from at least the 1790s up until the 1950s and as a result the area is littered with the remains of this past industry.

Our visit was at the request of the Glendalough mining heritage group, partners on the Metal Links project. Much of the mine complex at Glendalough has been surveyed by the group however there are remains of a number of miners cottages linked together via lanes and surrounded by field systems that have never been fully investigated. This was therefore the focus for our work.

On our first day we awoke to find it had been snowing throughout the night. Luckily this didn’t stop us and although bitterly cold we cracked on with the survey using both the total station and GPS equipment. Come spring the site will have disappeared beneath a dense covering of bracken, and thus a winter-time survey was essential. Over the two days, we collected all the information on the complex, together with sketches and photographs to help produce a series of plans back in the office.  The site and our survey will now form the focus of an event during County Wicklow’s Heritage Week in August, when it’s hoped that the local community will try their hand at surveying and also provide the Metal Links partners with valuable memories and information about the site.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday 7 February 2013

Llyfrgell Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru





Yn Ystafell Chwilio a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Tref llyfrau yw Aberystwyth. Mae’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgelloedd y Brifysgol a'r llyfrgell gyhoeddus newydd. Un o’i chyfrinachau pennaf yw’r trysor o gasgliad sy’n cael ei gadw yn llyfrgell Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn ogystal â chefnogi gwaith y staff, mae’r llyfrgell arbenigol fach hon yn darparu casgliad cyfeirio at ddefnydd y cyhoedd. Mae’n cynnwys llyfrau, tywyslyfrau, pamffledi, mapiau a chylchgronau yn ymwneud â phob agwedd ar yr amgylchedd adeiledig, yn amrywio o aneddiadau Neolithig i systemau cludiant rheilffordd ac o ddeddfwriaeth adeiladu i brosesu tunplat.

Yn fwyaf arbennig, mae yma lyfrau o ddiddordeb Cymreig sy’n adrodd hanes llunio Cymru fel tir ac fel cenedl. Maent hwy’n ymdrin â daeareg, topograffi, archaeoleg a phensaernïaeth y wlad. Ceir astudiaethau lleol, sirol a chenedlaethol sy’n disgrifio, dehongli ac esbonio sut y datblygodd Cymru. Mae’r adroddiadau a’r gweithiau cyfeirio yn y llyfrgell yn rhoi’r stori Gymreig mewn cyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a byd-eang. Pa un a ydych yn ymddiddori yn y Rhufeinwyr neu’r Oesoedd Canol, mewn nodweddion pensaernïol penodol megis gwydr lliw neu fframiau nenffyrch, mewn sut y gafaelodd y chwyldro diwydiannol yn y wlad a’i siapio, neu ym mha ffyrdd yr amlygodd Anghydffurfiaeth ei hun, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i lyfr i gynorthwyo’ch ymchwil yn llyfrgell y Comisiwn Brenhinol.

Casgliad unigryw ydyw sydd wedi tyfu drwy brynu eitemau a thrwy dderbyn rhoddion a llyfrau a gyflwynwyd yn lle ffioedd hawlfraint a thrwyddedu. Enghreifftiau yw English Vernacular Architecture gan Eric Mercer (1975) yn ein hadran bensaernïaeth, a Shipwreck Index of the British Isles Larn (2000) yn ein hadran forwrol. Mae gennym gasgliad bach o lyfrau prin ac argraffiadau cyntaf hefyd, gan gynnwys A Tour in Wales, cyfrol II (1783) gan Thomas Pennant ac An Historical Tour in Monmouthshire (1801) gan William Coxe sy’n cynnwys disgrifiadau a darluniau gwych o olygfeydd a hynafiaethau ysblennydd Cymru. Maent hwy hefyd yn darlunio rhai o ryfeddodau diwydiannol yr oes, megis Gwaith Haearn Blaenafon. 


Plât yn dangos Gwaith Haearn Blaenafon o An Historical Tour in Monmouthshire, William Coxe, 1801

Bydd ymwelwyr â’r llyfrgell yn darganfod cyfresi llawn o’r cylchgronau a gyhoeddwyd gan gymdeithasau sirol, hynafiaethol, archaeolegol a hanesyddol Cymru, sy’n cynnwys ffrwyth dros 100 mlynedd o waith cofnodi ac ymchwil. Hefyd, mae gan y llyfrgell amrywiaeth eang o gylchgronau archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol sy’n ymdrin â phynciau arbenigol, er enghraifft, peirianneg ddiwydiannol yn yr International Journal of History and Technology, a gyhoeddir gan Gymdeithas Newcomen, ac Anghydffurfiaeth Gymreig yn y Capel Newsletter.

Mae croeso i chi ddod i bori yng nghasgliad y llyfrgell o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9:30 a 4:00, Dydd Mercher 10:30 a 4:30.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn chc.cymru@cbhc.gov.uk neu ffoniwch 01970 621200.
Cynllun o Fryngaer Tre’r Ceiri o A Tour in Wales, cyfrol II, 1783 gan Thomas Pennant

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday 6 February 2013

Rhys ap Thomas and the fatal blow that killed Richard III on Bosworth Field






One of my responsibilities as People’s Collection Wales Officer is to respond to enquiries by members of the public who want to know more about the items we’ve uploaded. Yesterday morning, beneath our photograph of the effigy of Rhys ap Thomas in St Peter’s Church, Carmarthen, was the following highly topical question: ‘Is this the man who felled Richard III?’

In the news and on Monday night’s Channel Four documentary, we had confirmation that the skeleton, recently discovered under the car park in Leicester, was that of Richard III, killed at the Battle of Bosworth in 1485.

Not being an expert myself, I asked around my medievalist colleagues and was told that although there is no firm evidence that he was the man who killed Richard, Rhys ap Thomas was an important Welsh magnate who closely supported Henry Tudor. He and his retainers would have formed the close guard around Henry during the battle of Bosworth in 1485. That, together with the fact that he was knighted by Henry on the battle field, and later claims that he used a poleaxe to kill Richard, certainly make him one of the prime candidates to have delivered that fatal blow.

By Helen Rowe.

See Rhys ap Thomas’s effigy on People’s Collection Wales.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday 1 February 2013

Ladis Llangollen





Plas Newydd. Yn ei dyddiadur, byddai Eleanor Butler yn aml yn ysgrifennu ‘my beloved and I went the Home Circuit.’ Tro byr o gwmpas yr ardd ym Mhlas Newydd oedd hyn, er y byddent yn rhedeg yn aml mewn tywydd gwael.
NPRN 27760   DI2006_1033

Drwy gydol mis Chwefror bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y DU i gydnabod cyfraniad pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (pobl LHDdTh) i hanes Prydain. Cynhaliwyd y Mis Hanes Pobl LHDdTh cyntaf ym Mhrydain yn 2005, a chychwynnodd  rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau yng Nghymru yn 2011.

Maes astudio cymharol fodern yw hanes pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Mae dod o hyd i bobl LHDdTh a’u profiadau yn y llyfrau hanes, archifau a storfeydd amgueddfaol yn waith heriol a dadleuol yn aml. Serch hynny, mae un o’r enghreifftiau enwocaf yn hanes Prydain o berthynas rhwng pobl o’r un rhyw i’w chael yma yng Nghymru.

Ar noson o wanwyn ym mis Ebrill 1778, dihangodd dwy fenyw Wyddelig uchel eu tras o gartrefi eu teuluoedd yn Swydd Kilkenny, de-ddwyrain Iwerddon. Achosodd y Foneddiges Eleanor Butler (1739 – 1829) a Sarah Ponsonby (1755 – 1831) sgandal mawr ymhlith eu cyfoeswyr pan fu iddynt gynllwynio i ddianc rhag cynigion priodas a oedd yn wrthun ganddynt a dyfodol nad oeddynt ei eisiau fel gwragedd priod. Gan ffoi ar draws Môr Iwerddon, ymgartrefodd y ddwy yn y man mewn bwthyn deulawr di-nod o’r enw Pen y Maes ym mhentref gwledig distaw Llangollen yng ngogledd Cymru ym 1780.

Gyda’i gilydd, aethant ati i adnewyddu ac estyn Pen y Maes a’i diroedd a’i ailenwi’n Blas Newydd. Rhoddodd Plas Newydd ryddid i Eleanor a Sarah fyw’r bywyd yr oeddynt wedi dyheu amdano er ei fod yn hollol groes i ddisgwyliadau’r oes. Ymddengys nad oedd y ddwy, y daethpwyd i’w galw’n Ladis Llangollen, yn poeni dim am y cynnwrf yr oedd eu ffordd o fyw wedi’i achosi. Gyda’r incwm bach a ddarparwyd gan berthnasau beirniadol, ailddatblygwyd Plas Newydd ganddynt mewn arddull gothig, gyda ffenestri tri bwa, gwydr lliw ac ystafelloedd wedi’u haddurno â choed derw cerfiedig. Bu llawer o ffigurau adnabyddus y dydd yn ymweld â’r Ladis, gan gynnwys y beirdd Wordsworth, Shelley a Byron a oedd yn parchu eu perthynas hynod agos. Cawsant ymweliadau gan ffigurau gwleidyddol hefyd, megis Dug Wellington,  a barhaodd â’r traddodiad o ddod â darn o bren i addurno tu mewn a thu allan y tŷ yn rhodd am eu lletygarwch.

Roedd gwella’r tŷ a’r tiroedd yn brosiect oes iddynt ac mae eu llythyrau a’u dyddiaduron yn rhoi cryn sylw i hyn. Mae archif y Comisiwn Brenhinol yn cynnwys cynlluniau a ffotograffau o Blas Newydd sy’n dangos llawer o’r gwelliannau a wnaethant.

Bu farw Eleanor Butler ym 1829 a chafodd ei chladdu yn Eglwys Sant Collen yn Llangollen. Bu farw Sarah Ponsonby ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chafodd ei chladdu yn yr un bedd, ynghyd â’u howsgiper ffyddlon, Mary Carryl. Roedd Ladis Llangollen wedi mwynhau bywyd gyda’i gilydd am hanner can mlynedd ym Mhlas Newydd. Er bod natur eu perthynas yn parhau’n bwnc llosg, mae’r tŷ’n sefyll yn gofeb i’w bywyd anghonfensiynol.

Mae Plas Newydd bellach yn amgueddfa sy’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych, ac mae ar agor i’r cyhoedd.

Gellir cael mwy o wybodaeth am Blas Newydd, gan gynnwys rhestr o’r deunydd yn yr archif, ar Coflein.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin