Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 27 February 2013

Y Comisiwn Brenhinol ar Grwydr - Dydd Sadwrn 2 Mawrth






Yn ogystal â’r Sgwrs Oriel “Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru” a digwyddiad Casgliad y Werin Cymru a gynhelir yn Amgueddfa Bangor ar 2 Mawrth, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu i ddau ddigwyddiad arall, yng Nghaerfyrddin, ar yr un diwrnod, i gefnogi cyrff treftadaeth eraill. Yn y digwyddiad cyntaf, hanesydd milwrol y Comisiwn, Medwyn Parry, fydd y siaradwr gwadd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed yn Neuadd Sant Pedr, Caerfyrddin, rhwng 10am a 3pm. Teitl ei sgwrs fydd Olion Milwrol o’r Ugeinfed Ganrif yng Nghymru gyda phwyslais ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n siŵr o fod yn achlysur difyr iawn. I gael gwybod mwy, cysylltwch â: Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed.



Yr ail ddigwyddiad ar y diwrnod fydd Diwrnod Archaeoleg Sir Gâr, wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Bydd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ac awdur y cyhoeddiad uchel ei glod, Y Bwthyn Cymreig: The Welsh Cottage, yn rhoi sgwrs awdurdodol ar “Y Bwthyn Cymreig”. Siaradwyr eraill yn y digwyddiad fydd Dr Rod Bale a Cliff Bateman. Cynhelir y digwyddiad rhwng 9.30am a  4.30pm yng Nghanolfan Halliwell, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. I gael gwybod mwy, cysylltwch ag Ed Davies: e.davies@dyfedarchaeology.org.uk; ffôn: 01558 825993.




Bydd staff y Comisiwn Brenhinol wrth law drwy’r dydd i ateb cwestiynau a sgwrsio ag ymwelwyr yn ystod y ddau ddigwyddiad. Mae croeso cynnes i chi ddod i’n stondin lle bydd ein holl gyhoeddiadau ar werth, gan gynnwys ein tri theitl diweddaraf: Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes a Worktown: The Drawings of Falcon Hildred. Bydd disgownt arbennig o 10% ar bob llyfr. Mae’n argoeli bod yn ddiwrnod gwych i bawb, felly dewch i ymuno â ni – ble bynnag y byddwn!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin