Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Chwilio Cofnodion





Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yw’r casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru, o’r aneddiadau cynharaf mewn ogofeydd hyd at ffermydd gwynt yr 21ain ganrif. Mae ynddo dros 1.25 miliwn o ffotograffau a miloedd lawer o luniadau, arolygon, adroddiadau a mapiau. Bydd yr archif yn tyfu o ddydd i ddydd wrth i wybodaeth gael ei chasglu’n uniongyrchol drwy raglenni ymchwil ac arolygu’r Comisiwn Brenhinol ac oherwydd rhoddion o ddeunydd gan sefydliadau eraill ac unigolion. Gellir cyrchu’r archif drwy Coflein neu drwy gysylltu â’n gwasanaeth ymholiadau. Mae’r gwasanaeth hwnnw, sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd, yn tynnu ar ffynonellau archifol a chyhoeddedig ac ar gyngor arbenigol staff y Comisiwn Brenhinol.

Coflein yw cronfa ddata ar-lein gyhoeddus y Comisiwn Brenhinol. Mae’n cyfuno gwybodaeth am safleoedd ac adeiladau archaeolegol o bob cyfnod â gwybodaeth o gatalogau’r casgliadau yn archif CHCC. Gellir gweld mwy a mwy o archifau a’u llwytho i lawr yn uniongyrchol o Coflein.

Mae porth ar-lein cyhoeddus, Cymru Hanesyddol yn cael ei ddatblygu i ganiatáu chwilio ar draws y cronfeydd data sydd wedi’u creu gan y sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n ymwneud ag agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol. Ar hyn o bryd, CARN (Y Mynegai Creiddiol i Gofnodion Archaeolegol) yw mynedfa’r cyhoedd i’r Gronfa Ddata Genedlaethol Estynedig a gasglwyd gan sefydliadau archaeolegol ledled Cymru.
Share this post:

LinkWithin