Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Amdanom Ni





Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru rôl genedlaethol flaenllaw o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru, fel cychwynnwr, curadur a chyflenwr gwybodaeth awdurdodol i wneuthurwyr penderfyniadau unigol a chorfforaethol, a rhai’r llywodraeth, ac i ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.
    
Mae tirwedd a threftadaeth adeiledig Cymru’n ffrwyth rhyngweithiadau pobl â byd natur dros filoedd o flynyddoedd. Ers iddo gael ei sefydlu ym 1908, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod ar y blaen o ran esbonio ac ymchwilio i olion y rhyngweithiadau hynny, sef yr archaeoleg a’r adeiladau hanesyddol a welwn ni o’n cwmpas.

Mae gan y Comisiwn Brenhinol gasgliad unigryw o ffotograffau, mapiau, delweddau, cyhoeddiadau ac adroddiadau yn ei archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a chewch ymgynghori ag ef ar ein cronfa ddata ar-lein, sef Coflein neu drwy anfon ymholiad i’n hadran Gwasanaethau Darllenwyr.

Aberystwyth yw cartref y Comisiwn Brenhinol, ac fe noddir y Comisiwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y Cadeirydd a’r Comisiynwyr sy’n cyfeirio ymchwiliadau’n staff arbenigol – staff sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i roi’r wybodaeth awdurdodol ddiweddaraf i’r cyhoedd.
Share this post:

LinkWithin