Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 14 June 2016

Dehongli ac ymweld ag archaeoleg Ynys Sgomer





Louise Barker (yn pwyntio) yn gweithio gyda Swyddog Ymwelwyr Sgomer a gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ar ymweliad diweddar ag Ynys Sgomer.
Mae archaeoleg Ynys Sgomer, Sir Benfro, wedi’i chadw’n arbennig o dda. Ar draws yr ynys gellir gweld olion ffiniau wedi’u creu â chlogfeini, waliau cerrig taclus, a sylfeini tai crwn. Dengys y rhain i lawer o’r ynys gael ei ffermio yn ystod yr Oes Haearn a’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig rhwng 2,000 a 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae maen hir amlwg, Maen Harold, a megalithau eraill yn awgrymu bod pobl yn byw yma yn llawer cynharach na hyn, yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar.
Tŷ crwn o’r Oes Haearn neu’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig yn y Wick ar Ynys Sgomer. Golwg yn dangos y drws.
Yn sgil arolygon archaeolegol a chloddiadau newydd gan y Comisiwn Brenhinol, ar y cyd â chydweithwyr o Brifysgol Sheffield, Prifysgol Caerdydd a Cadw, mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sy’n rheoli Sgomer, yn gobeithio gwella’r arwyddion ar yr ynys a’r wybodaeth am ei harchaeoleg yn ystod 2016.

Tua diwedd Mai, teithiodd Louise Barker a Toby Driver, archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol, i Sgomer i gyfarfod â Leighton Newman, Swyddog Ymwelwyr Sgomer, a Hannah, gwirfoddolwraig ers blynyddoedd, i siarad am archaeoleg yr henebion cynhanesyddol mwyaf gweladwy. Gobaith Leighton a Hannah yw adnewyddu rhannau o Lwybr Hanes Sgomer, a sefydlwyd gyntaf ar ôl gwaith a wnaed gan yr Athro John Evans yn y 1980au.

Mae un o’r tai crwn cynhanesyddol mwyaf hygyrch a thrawiadol yn Sir Benfro i’w weld yn y Wick, yn agos at un o’r prif wylfannau Palod. Gosodwyd arwydd newydd yno i ddangos safle’r tŷ. Gall ymwelwyr gerdded i mewn i sylfeini’r tŷ crwn, drwy ei borth amlwg, a dychmygu’r olygfa ddomestig o fewn ei furiau ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Un o’r arwyddion newydd sy’n gwahodd ymwelwyr i archwilio’r tŷ crwn cynhanesyddol yn y Wick.
Mae’n bosibl bod gan y tŷ wal o blethwaith a choed a tho conig yn wreiddiol. Er bod coed ar gyfer adeiladu yn brin ar Ynys Sgomer yn yr Oes Haearn, gellid fod wedi cludo pyst, polion a defnyddiau adeiladu eraill i’r ynys ar gwch. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn parhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i godi ymwybyddiaeth o drysorau archaeolegol Sgomer. Os hoffech ymweld ag Ynys Sgomer, ewch i’r wefan: http://www.welshwildlife.org/skomer-skokholm/skomer/

Gan Toby Driver, RCAHMW


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin