Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 22 January 2016

Pleidleisiwch dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte, sydd wedi’i henwebu fel Safle Treftadaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Countryfile 2015-16 y BBC





Golygfa’n dangos Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chwch camlas yn ei chroesi, NPRN: 34410   DI2010_1390.
Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, canolbwynt mawreddog i un o Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO, ynghyd ag 11 filltir o’i chamlas ac adeiladweithiau cysylltiedig, yn ymgeisydd teilwng ar gyfer Safle Treftadaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Countryfile y BBC eleni. Cafodd ei chynllunio gan William Jessop a Thomas Telford, dau o’r dynion mwyaf nodedig yn hanes peirianneg sifil, ac fe’i hadeiladwyd rhwng 1795 a 1805 ar gost o £47,018 i fynd â Chamlas Llangollen (Ellesmere) dros Afon Dyfrdwy i’r de o Fasn Trefor.

Gan fanteisio ar dechnolegau newydd megis haearn bwrw, roedd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn adeiladwaith enfawr hynod o arloesol, ac athrylith cynllun Jessop a Telford sydd wedi sicrhau ei pharhad a’i lle mewn hanes. Mae deunaw colofn daprog o gerrig yn cario cafn cul o blatiau haearn am bellter o 307m. Dim ond 25mm sydd rhwng y dŵr y tu mewn a’r aer y tu allan i’r platiau metel. Mae pellter o 38.4m o lefel y dŵr yn y gamlas hyd at yr afon islaw. Am 200 mlynedd Pontcysyllte oedd y draphont ddŵr dalaf yn y byd ar gyfer cario cychod. Dim ond yn yr unfed ganrif ar hugain, yng Ngwlad Belg a China, y codwyd rhai uwch ar gyfer lifftiau cychod.

Llun o’r awyr yn dangos rhychwantau canolog syfrdanol Traphont Ddŵr Pontcysyllte, NPRN: 34410   AP_2006_0914.
Dyfarnwyd statws Treftadaeth Byd UNESCO i’r draphont ddŵr yn 2009, gan ei gosod ochr yn ochr â safleoedd eiconig fel y Grand Canyon, y Pyramidiau, Wal Fawr China a Thŵr Llundain. Adroddir ei hanes gan gyn Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol yn ein cyd-gyhoeddiad diweddar, Pontcysyllte Aqueduct and Canal: World Heritage Site, y gellir ei brynu gan y Comisiwn Brenhinol am £9.99 yn unig (postio a phacio am ddim).

Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw 31 Ionawr 2016:
http://www.countryfile.com/awards2015-16





Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin