Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 25 January 2016

Gorffennol Digidol 2016: Cofrestru yn cau ar y 5 Chwefror!







Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eich gwahodd i fynychu:

Gorffennol Digidol 2016: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

10 a 11 Chwefror 2016
Gwesty St George, Llandudno


Cynhadledd ddeuddydd flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.

Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau seminar a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu cyfnewid syniadau a hwyluso rhwydweithio. Darperir sesiynau anghynhadledd yn ystod y prynhawn cyntaf, i roi cyfle i gynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol wneud cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion sy’n cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd â themâu’r digwyddiad eleni. Bydd stondinau Arddangosfa yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion, datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.

Y themâu ar gyfer 2016 fydd ‘Arolygu Digidol: Ymagwedd Gyfannol’ a ‘Twristiaeth Treftadaeth Ddigidol’.

Cynhelir cynhadledd Gorffennol Digidol 2016 yn Llandudno, tref lan môr Fictoraidd a ystyrir yn “Frenhines Trefi Glan Môr Cymru”. Oherwydd ei lleoliad ar arfordir gogledd Cymru, mae’n hawdd cyrraedd Llandudno mewn car neu ar drên ac mae ganddi gysylltiadau da â meysydd awyr Lerpwl a Manceinion. Caiff y gynhadledd ei chynnal yng Ngwesty St George, gwesty arobryn a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1854 ond sy’n parhau’n un o westai mwyaf ysblennydd y dref.

I gael gwybodaeth am y siaradwyr a’r rhaglen ewch i: http://gorffennoldigidol2016.blogspot.co.uk
a dilynwch #gorffennoldigidol2016

Cost cofrestru am y ddau ddiwrnod yw £89, gan gynnwys cinio a lluniaeth ar y ddau ddiwrnod. I gofrestru ewch i: https://www.eventbrite.co.uk

Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gynhadledd Gorffennol Digidol 2016.
Tîm Gorffennol Digidol


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin