Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 31 July 2013

Yr Ŵyl Archaeoleg: “Llwyddiant Tanbaid”!





Cael hwyl gyda chwyddwydrau ac awyrluniau yn Niwrnod Hwyl Penparcau
Diolch i bythefnos di-baid o heulwen braf fe gafodd mynychwyr Gŵyl Archaeoleg 2013 amser bythgofiadwy yn Aberystwyth. Mae’r lluniau sy’n dilyn yn dangos rhai o’r 750 a mwy o selogion a fu’n mwynhau digwyddiadau’r Comisiwn Brenhinol. Roedd y rhain yn cynnwys dyddiau cymunedol ym Mhenparcau a Llan-non, darlith i ddathlu lansio Cymdeithas Hanes ac Archaeoleg Llŷn, cyflwyniad ar waith Falcon Hildred, yr arlunydd tirweddau diwydiannol, a thaith dywys i fryngaer Pen Dinas dan arweiniad Dr Toby Driver. Cadwch eich llygaid ar agor am glawr blaen rhifyn nesaf Newyddlen Cyngor Archaeoleg Prydain (diwedd yr Haf 2013) a fydd yn dangos byddin o archaeolegwyr brwd yn ymlwybro at y copa!

Selogion yn brasgamu i gopa bryngaer Pen Dinas er gwaethaf gwres yr haul crasboeth

Rhoi delwedd Coflein o Aberystwyth wrth ei gilydd




Nikki Vousden o’r Comisiwn Brenhinol yn egluro cyfrinachau maglau pysgod yn y Diwrnod Agored Cloddiadau Cymunedol, Heol Non, Llan-non, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed



Dr Peter Wakelin yn siarad â llond yr ystafell o bobl ar waith Falcon Hildred

Ymwelwyr yn mwynhau taith safle yn ystod y Diwrnod Agored Cloddiadau Cymunedol, Heol Non, Llan-non

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #CBHCymru

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin