Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 4 July 2013

Ffair Haf Penparcau, 13 Gorffennaf 2013





Bryngaer Pen Dinas, Aberystwyth.

Fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Archaeoleg Prydain eleni, bydd y Comisiwn Brenhinol yn mynychu ffair haf Ysgol Llwyn yr Eos ar Ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, yr un diwrnod ag y bydd Dr Toby Driver yn arwain taith gerdded i Ben Dinas, y gaer o Oes yr Haearn. Mae’r ysgol ger y Neuadd Goffa, Penparcau, lle bydd y daith yn gorffen. Trefnwyd y ffair i ddathlu pen-blwydd yr ysgol gynradd, Ysgol Llwyn yr Eos, yn drigain oed ac fe fydd gweithgareddau rhwng canol dydd a 9 o’r gloch y nos. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys arddangosiadau gan y grŵp ail-greu hanesyddol Normannis, sioe gŵn, dawns stryd, paffio ac ymarfer paffio, corau, a llawer mwy. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i’r plant drwy gydol y dydd, gan gynnwys gweithgaredd difyr iawn wedi’i seilio ar gopïau o’r mapiau modern a hanesyddol o Aberystwyth sydd ym meddiant y Comisiwn a chwilen symudol raglenadwy o’r enw Bee-Bot! Dewch atom yn llu i ddarganfod mwy.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Nicola Roberts, Ffôn: 01970 621248, neu Fforwm Cymunedol Penparcau, Ffôn: 01970 611099.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales



Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin