Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 12 July 2013

Gwewch Archaeoleg ar gyfer Gŵyl Archaeoleg eleni! 13-28 Gorffennaf, 2013







Cadwch eich dwylo’n brysur yr haf hwn a helpwch ni i ddathlu’r drydedd Ŵyl Archaeoleg ar hugain, rhwng 13 a 28 Gorffennaf. Os ydych erioed wedi ffansïo gwau gorchudd tebot ar siâp cwt crwn Castell Henllys, neu stop drws Pontcysyllte, neu os oes gennwch awch i ddangos eich arddull Celtaidd, dyma gyfle i chi roi’ch dychymyg a’ch creadigrwydd ar waith. Bydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn pecyn gwau gwerth £25 gan Ramshambles York, aelodaeth o Gyngor Archaeoleg Prydain a chopi o lyfr diweddaraf y Cyngor ― Star Carr: Life After the Ice Age.

Y cyfan mae angen ei wneud i gystadlu yw:
1. Tynnwch ffotograff o’ch gwaith gwau.
2. Dilynwch yr Ŵyl Archaeoleg ar Pinterest yn www.pinterest.com/festivalofarch.
3. Anfonwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch ar gyfer Pinterest i festival@archaeologyUK.org a gofynnwch am gael eich ychwanegu at y bwrdd grŵp “Archaeology Fest Knit”.
4. Piniwch eich delwedd ar y bwrdd “Archaeology Fest Knit” gyda’r hashtag #FestArchKnit a phennawd byr.

Yn olaf, rhowch eich delweddau ar dudalen Facebook y Comisiwn Brenhinol neu anfonwch neges Trydar i ni i ddangos eich campwaith treftadaeth.

Mae mor syml â hynny! Pob lwc! I gael ysbrydoliaeth, porwch yn ein delweddau ar Coflein!

Mae’r gystadleuaeth yn gorffen am ganol nos 28 Gorffennaf. Dewisir un enillydd gan y beirniaid. Bydd Cyngor Archaeoleg Prydain yn rhoi gwybod i’r enillydd drwy e-bost.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin