Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 2 July 2013

Taith Dywys Ar Ben Dinas: Cadarnle O Oes Yr Haearn, Bae Ceredigion







Pendinas: Cadarnle o’r Oes Haearn uwchlaw Bae Ceredigion
Taith dywys wedi’i harwain gan Dr Toby Driver, archaeolegydd a ffotograffydd awyrluniau’r Comisiwn Brenhinol.

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2013, 2pm-4pm

Camwch yn ôl dros 2,000 o flynyddoedd i ddarganfod gwreiddiau cynhanesyddol Aberystwyth ar daith dywys i’r fryngaer fwyaf o Oes yr Haearn yn ardal Bae Ceredigion. Darganfyddwch gartrefi’r Celtiaid, a pheirianneg gynhanesyddol y pyrth a’r rhagfuriau ar y bryn arfordirol strategol bwysig hwn.

Cyfarfod ym maes parcio’r Neuadd Goffa, Penparcau, Aberystwyth, SY23 1RZ. Mae’n daith sy’n gofyn am dipyn o ymdrech felly bydd angen gwisgo esgidiau a dillad awyr agored da.

Digwyddiad di-dâl yw hwn ac mae croeso i bawb!

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffôn: 01970 621200 | e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin