Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 22 July 2013

Diwrnod Gwych Allan: Sioe Frenhinol Cymru, Abergele, 1950







Hanner can mlynedd yn ôl fe symudodd Sioe Frenhinol Cymru i’w safle parhaol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Cyn hynny roedd y sioe wedi cael ei chynnal mewn ardal wahanol bob blwyddyn. Yn ddiweddar fe ddaeth y Comisiwn Brenhinol o hyd i hen awyrlun o Gasgliad Aerofilms o un o’r sioeau cyntaf a gynhaliwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y sioe ei chynnal yn Abergele o Ddydd Mercher hyd Ddydd Gwener, 26-28 Gorffennaf 1950. Cafodd y dyddiadau eu dewis yn ofalus, rhwng Sioe Frenhinol Swydd Gaerhirfryn a Sioe Swydd Efrog. Roedd nifer yr ymwelwyr yn uchel iawn, gyda 61,311 yn mynd drwy’r giatiau, a gwnaed elw o £3,814. Roedd safle’r sioe, lle mae stâd dai Maes Canol heddiw, yn edrych dros y gors at Ruddlan ac Afon Clwyd. Uchafbwynt y sioe oedd arddangosiad gan Heddlu Marchogol Lerpwl, a fyddai’n patrolio’r dociau, gemau pêl-droed a chyfarfodydd rasio ar gefn ceffyl ar yr adeg hon. Mewn adroddiad diweddarach am sioe 1950, ysgrifennodd Vernon Hughes, “Roedd y tywydd yn ystod y tri diwrnod yn gynnes a heulog, roedd y cae’n orlawn o bobl siriol a bodlon, roedd yr arlwywyr yn brysur, ac roedd y masnachwyr wrth eu stondinau yn amlwg wrth eu bodd, roedd pebyll eraill yn llawn arddangosion ac, yn bwysicaf oll, roedd y ffermwyr a’u teuluoedd yn cael amser bendigedig yn y tywydd hafaidd – arwydd sicr ei bod hi’n sioe dda.” Bryd hynny, fel heddiw, roedd Sioe Frenhinol Cymru yn bendant yn achlysur hwyliog i’r teulu cyfan – yn enwedig mewn heulwen braf!

Os oes gennych atgofion am sioe Abergele ym 1950, beth am ddod i stondin y Comisiwn Brenhinol yn y sioe eleni (CCA 785) a rhoi’r hanes i ni neu ffonio’r Comisiwn ar 01970 621200. Gallwch weld delweddau unigryw eraill o Gasgliad Aerofilms ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol.

Nodiadau i Olygyddion:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill.
Gwefan: www.cbhc.gov.uk

Casgliad Aerofilms
Mae Casgliad Aerofilms yn cynnwys mwy na miliwn o eitemau, gan gynnwys negatifau ac albymau o ffotograffau. Yn dyddio o 1919 hyd 2006, mae’r delweddau’n dangos y newidiadau mawr sydd wedi digwydd yng ngwledydd Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Dyma’r casgliad mwyaf a phwysicaf o awyrluniau o Brydain a dynnwyd cyn 1939.

Cafodd y casgliad mawr hwn o awyrluniau hanesyddol ei brynu gan English Heritage, mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, yn 2007. Cyd-reolir y casgliad gan y tri phartner.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Nicola Roberts, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru nicola.roberts@cbhc.gov.uk    Ffôn: 01970 621248    Symudol: 07866050316

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin