Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 11 October 2012

The Story of Wales: Wales and Britain





Awyrlun yn dangos y difrod yng nghanol Abertawe adeg y rhyfel.
AFR10857  NPRN 33145
Bydd y chweched raglen yng nghyfres BBC Cymru, “The Story of Wales”, a’r olaf, yn cael ei dangos heno ar BBC2 am 7pm. Gan ddilyn y digwyddiadau a newidiadau yng Nghymru o’r Ail Ryfel Byd hyd heddiw, mae’n cwmpasu llu o bynciau megis bomio Abertawe yn yr Ail Ryfel Byd, dechrau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan Aneurin Bevan, diwydiannau dur Port Talbot, Glynebwy a Shotton, ymgyrch yr Iaith, a’r camau tuag at lywodraeth annibynnol i Gymru. Mae’r gyfres boblogaidd a gwerthfawr hon wedi cynyddu ein dealltwriaeth o hanes Cymru ac wedi ysgogi dadl ar ystyr Cymreictod yn yr unfed ganrif ar hugain. Gellir gweld y rhaglenni ar BBC iPlayer yn ystod y dyddiau nesaf ac mae DVD bellach ar gael drwy’r Brifysgol Agored.

Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 6 raglen:
‘Cymru wedi’r Ail Ryfel Byd’ gan Richard Suggett ac ‘Ymlaen i’r Dyfodol’ gan Peter Wakelin yw’r penodau olaf yn Trysorau Cudd: Hidden Histories, cyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol sy’n ymdrin â phob cyfnod yn hanes Cymru ac sy’n gydymaith perffaith i bawb sydd â diddordeb yn hanes a threftadaeth ein gwlad. Gellir cael gwybodaeth awdurdodol am bob agwedd ar amgylchedd hanesyddol Cymru yn ein cyhoeddiadau niferus sydd, bob un, yn cynnwys llu o luniau trawiadol o adnoddau gweledol gwych Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cynigir yr holl lyfrau am bris rhesymol ac mae gostyngiad arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin