Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 9 June 2015

Diwrnod Cenedlaethol Archifau





Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Archifau, credwn ei bod hi’n briodol i ni adrodd un o’r hanesion rhyngwladol niferus sy’n gysylltiedig â’n casgliadau.

Dyma lun o’r ystafell fwyta banelog o’r ail ganrif ar bymtheg yng Nghastell Gwydir ger Llanrwst yng ngogledd Cymru:

Gwydir Castle, DI2011_1054, NPRN 26555

Priodolir y ffotograff i Una Norman, ac fe gafodd ei dynnu cyn 1912. Ym 1921 fe werthwyd Castell Gwydir a chafodd y dodrefn a’r paneli addurnol yn yr ystafell fwyta eu tynnu allan a’u gwerthu mewn arwerthiant i’r perchennog papurau newydd William Randolph Hearst. Pan fu farw ym 1951, fe adawodd ddodrefn ystafell fwyta Gwydir yn ei ewyllys i’r Amgueddfa Gelf Fetropolitan yn Efrog Newydd. Cymerodd yr amgueddfa yr eitemau i’w storfeydd a dyna lle buont, allan o’r golwg, am ddeugain mlynedd a rhagor.

Ym 1994, fe newidiodd Castell Gwydir ddwylo unwaith eto, a dechreuodd ei berchnogion newydd raglen uchelgeisiol o adnewyddu ac adfer. Fel rhan o’r rhaglen hon, buont yn trafod gyda’r Amgueddfa Fetropolitan i gael y dodrefn ystafell fwyta yn ôl. Cafodd y cyfan ei ddychwelyd ym 1996 a’i osod yn ei leoliad gwreiddiol. Cafodd yr ystafell fwyta ei hagor yn ffurfiol gan Dywysog Cymru mewn seremoni ym 1998, bron pedwar ugain mlynedd ar ôl i’r dodrefn gael eu tynnu allan, a bron trigain mlynedd ar ôl i Gastell Gwydir gael ei ddisgrifio yn Caernarvonshire Inventory y Comisiwn Brenhinol!


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin