Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 19 June 2015

Cyhoeddi ‘Beibl’ Newydd Ar Gyfer Pontcysyllte







Mae Safle Treftadaeth Byd diweddaraf Prydain, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ger Wrecsam, yn cael ei drafod mewn cyhoeddiad bywiog newydd sy’n cyfuno hanes y safle ag arweinlyfr.

Cyhoeddwyd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte Safle Treftadaeth Byd yn y Saesneg a’r Gymraeg gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a chyda chymorth Croeso Cymru a Cadw, ac mae’n mynd â’r darllenydd ar daith hanesyddol hynod o ddifyr.

Mae’r llyfr, a ysgrifennwyd gan yr hanesydd Dr Peter Wakelin, yn edrych ar sut a pham y cafodd y draphont ddŵr a chamlas eu hadeiladu ychydig dros 200 o flynyddoedd yn ôl, sut y bu iddynt ddylanwadu ar y Chwyldro Diwydiannol, a’r hyn y gall ymwelwyr â’r safle ei weld heddiw – traphontydd dŵr, twneli, trychfeydd, argloddiau, glanfeydd, aneddiadau ac olion diwydiannau. Mae’r stori wedi’i rhannu’n benodau hawdd eu darllen, ac adrannau sy’n tywys cerddwyr, cychwyr, beicwyr ac ymwelwyr mewn ceir. Mae cymorth hefyd i siaradwyr di-Gymraeg ar sut i ynganu enw’r heneb fawreddog – ‘pont-cuss-ull-teh’ sy’n golygu ‘the bridge that joins’.

Caiff pob un o’r prif atyniadau ar y Safle Treftadaeth Byd, sy’n 11 filltir o hyd, ei esbonio, ac mae adrannau arbennig yn ymdrin â thopigau pwysig, gan gynnwys ffigurau allweddol fel y peirianwyr Thomas Telford a William Jessop, nafis y gamlas, pobl y cychod, bywyd gwyllt a safleoedd Treftadaeth Byd eraill.

Mae mapiau, diagramau, a ffotograffau a phaentiadau hanesyddol, yn ogystal â delweddau trawiadol sy’n ail-greu’r safle, yn rhoi lliw i’r testun ac yn dod â’r stori unigryw hon yn fyw.

Meddai Andrew Stumpf o’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd: “Bob blwyddyn bydd mwy na 500,000 o bobl yn mwynhau ymweliad â’r Safle Treftadaeth Byd yma. Rydyn ni am iddyn nhw i gyd fwynhau’r profiad fwy byth drwy gael cyfle i ddarganfod mwy am arwyddocâd yr adeiladweithiau maen nhw’n edrych arnyn nhw a’r rhan maen nhw wedi’i chwarae mewn hanes lleol ac, yn wir, yn hanes y byd. Bydd yr arweinlyfr yma yn helpu i wella a chyfoethogi eu profiad ac, rwy’n gobeithio, yn eu hannog i aros yn hirach a chwilota ymhellach.”

“Mae Peter Wakelin wedi gwneud gwaith gwych. Mae o wedi llwyddo i sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion yr hanesydd brwd a diddordeb cyffredinol yr ymwelydd dydd. O fewn tudalennau’r llyfr fe gewch ffeithiau diddorol, darluniau lliw hyfryd, a chyngor defnyddiol ar sut i gael y gorau o ymweliad ag ardal Llangollen, Y Waun a’r cyffiniau.”

Ychwanegodd Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol: “Heddiw mae’n anodd clywed y geiriau ‘Chwyldro Diwydiannol’ heb feddwl am orddefnyddio adnoddau a newid yn yr hinsawdd, ond mae llyfr Peter yn ein hatgoffa bod ochr arall i’r stori: mae’n dangos i ni fod Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn gamp beirianegol aruthrol ac yn enghraifft odidog o ddyfeisgarwch a phensaernïaeth hardd.”

Mae Croeso Cymru a Cadw wedi cyfrannu at y gost o gyhoeddi’r llyfr. Y pris yw £9.99 ac mae ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd ym Masn Trefor, Anderton Boat Lift, Twnnel Standedge, a’r amgueddfeydd dyfrffyrdd yn Ellesmere Port, Caerloyw a Stoke Bruerne.

Gellir ei brynu drwy’r post hefyd. Anfonwch siec am £12.50 (mae’r pris yn cynnwys postio a phacio), yn daladwy i’r ‘Canal & River Trust’, at Jenny Rogers, National Waterways Museum, South Pier Road, Ellesmere Port, CH65 4FW, gan roi eich cyfeiriad llawn, neu e-bostiwch rif cysylltu i jenny.rogers@canalrivertrust.org.uk i brynu drwy gerdyn credyd.


Diwedd

I gael mwy o wybodaeth neu i ofyn am gopi adolygu o’r llyfr, cysylltwch â Lynn Pegler / Clive Naish, swyddogion y wasg, Glandŵr Cymru (yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru).
E-bost: lynn.pegler@canalrivertrust.org.uk neu ffôn: 077177 60284.


Nodiadau i Olygyddion

Traphont Ddŵr Pontcysyllte: Ffeithiau a Ffigurau
Daeth Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth Byd yn 2009, gan ymuno â dim ond 1000 o safleoedd eraill ar hyd a lled y byd yr ystyrir eu bod o werth eithriadol ar raddfa fyd-eang, megis y Grand Canyon, y Pyramidiau a Chôr y Cewri.
  • Mae’r cafn haearn bwrw sy’n dal dŵr y gamlas yn 307m o hyd ac ar ei bwynt uchaf mae’n 38.4m uwchben Afon Dyfrdwy.
  • Mae gan y draphont ddŵr 19 bwa, pob un â rhychwant o 45 troedfedd.
  • I gadw’r draphont mor ysgafn â phosib, mae’r colofnau cerrig main yn rhannol wag ac yn tapro tua’r brig.
  • Mae’r draphont yn dal 1.5 miliwn litr o ddŵr ac mae’n cymryd dwy awr i’w gwagio.
  • Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a godwyd rhwng 1796 a 1805, yn adeilad rhestredig gradd 1 ac yn heneb gofrestredig. Hi yw canolbwynt y Safle Treftadaeth Byd 11 filltir o hyd.
Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, yw’r corff sy’n gofalu am gamlesi hanesyddol Cymru, sef camlesi Abertawe, Llangollen, Trefaldwyn, a Sir Fynwy ac Aberhonddu. Mae ein camlesi yn hafan i bobl a bywyd gwyllt ac yn drysor cenedlaethol. Mae’r dyfrffyrdd hyn a adeiladwyd mwy na 200 o flynyddoedd yn ôl yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y Gymru fodern, gan wneud cyfraniad blynyddol o £34 miliwn i’r economi a chynnal 800 o swyddi mewn busnesau lleol.

Mae’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn gyfrifol am 2,000 o filltiroedd o gamlesi, afonydd a dociau ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Ein gwaith ni yw gofalu am y dreftadaeth wych hon a’i chadw am byth i’r cenedlaethau a ddaw, a rhoi mwy o lais i bobl yn rheolaeth bob dydd eu dyfrffyrdd lleol.
www.canalrivertrust.org.uk @CanalRiverTrust @crtcomms

Awdur a churadur yw Dr Peter Wakelin sy’n arbenigo mewn treftadaeth ddiwydiannol a chelfyddyd Gymreig. Mae’n gyn Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac fe olygodd enwebiad Pontcysyllte fel Safle Treftadaeth Byd yn 2007. Roedd hefyd yn aelod allweddol o’r tîm enwebu ar gyfer Safle Treftadaeth Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Ne Cymru yn 2000. Hyd yn ddiweddar roedd yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae A Guide to Blaenavon Ironworks and World Heritage Site a Trysorau Cudd: Darganfod Treftadaeth Cymru.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Y Comisiwn Brenhinol yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
www.cbhc.gov.uk @RCAHMWales


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin