Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 5 June 2015

Dathlu ein Gwirfoddolwyr





 
 
Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr yr wythnos hon, ac allem ni ddim gadael iddi fynd heibio heb ddweud ‘diolch!’ diffuant i’r holl bobl sy’n gwirfoddoli gyda’r Comisiwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maen nhw wedi rhoi 1,001 o oriau o amser i gefnogi ein gweithgareddau – mae hyn yn cyfateb i 138 o ddyddiau gwaith, a bron 28 o wythnosau gwaith!

Bydd ein holl wirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad allweddol i’n gwaith ar draws y sefydliad. Byddant yn helpu i wella cofnodion Coflein, ein cronfa ddata ar-lein, a gweithiant yn agos gyda’n staff Llyfrgell i gatalogio, labelu a dychwelyd llyfrau i’r silffoedd yn barod i’n hymwelwyr eu defnyddio. Yn dâl am hyn fe gynigiwn gyfleoedd i feithrin sgiliau, cynyddu gwybodaeth ac ennill profiad gwaith gwerthfawr.

Diolch i chi i gyd!




Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin